Llun o'r hysbyseb o wefan yr Awdurdod
Cwmni o ogledd Cymru oedd yn gyfrifol am yr hysbyseb a dderbyniodd fwya’ o gwynion yn ystod 2015, yn ôl yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (yr ASA).

Roedd hysbyseb y wefan cymharu prisiau, MoneySuperMarket.com yn arddangos dyn mewn sodlau uchel a phâr o siorts tynn – hot pants –  yn dawnsio i lawr y stryd.

Yn ôl yr ASA, roedden nhw wedi derbyn mwy na 1,500 o gwynion am yr hysbyseb gan y cwmni o Ewlo, sir y Fflint – mwy na dwbl y cwynion am yr un hysbyseb arall.

‘Sarhaus’

Yn ôl rhai gwylwyr roedd yr hysbyseb yn un “sarhaus”, gan gyfeirio at ddillad y cymeriad, ei symudiadau ac at y cynnwys a oedd yn “amlwg yn rhywiol”.

Ond doedd yr Awdurdod Safonau ddim wedi derbyn y cwynion a chafodd  yr hysbyseb ddim ei hatal.

Fe gafodd cwynion yn erbyn wyth o’r deg hysbyseb eu gwrthod yn llwyr.

‘Hysbysebion camarweiniol’

Roedd llawer o gwynion hefyd am y gwasanaeth Booking.com, gyda honiadau bod y gair ‘Booking’ yn cael ei ddefnyddio yn lle rheg.

Yn ogystal, fe gafodd hysbyseb y gwasanaeth talu ar-lein, Paypal, ei beirniadu am “ddatgelu’r gwir am Siôn Corn” cyn y Nadolig.

Dim ond un hysbyseb o’r deg ucha’ a gafodd ei gwahardd – am fod yn “anghyfrifol” wrth hysbysebu cynnyrch colli pwysau.

Y prif waith

Wrth gyhoeddi’r rhestr, roedd pennaeth yr ASA yn pwysleisio bod y rhan fwya’ o’u gwaith yn ymwneud â hysbysebion llai amlwg sy’n gamarweiniol.

“Tra bod materion sy’n sarhau yn medru cipior penawdau, roedd llawer o’n gwaith yn mynd i’r afael â hysbysebion camarweiniol,” esboniodd Guy Parker, Prif Weithredwr yr ASA.

Roedd llawer o’r gwaith hwnnw’n sicrhau bod gwefannau sy’n ailwerthu tocynnau yn agored am eu prisiau a ‘vlogwyr’ yn gwneud yn glir eu bod yn cael nawdd masnachol i sgrifennu blogiau.