Mae Rhun ap Iowerth yn anhapus â faint sydd wedi'i wario ar y cynllun
Mae adroddiad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol wedi beirniadu’r Ddeddf Teithio Llesol (2013) am beidio â gwneud digon i gyrraedd ei photensial.

Yn ôl y Pwyllgor Menter a Busnes, nid oes digon o arweinyddiaeth na chyllid yn cael ei neilltuo i gyflawni’r ddeddf orau bosib.

Fel rhan o’r ddeddf, mae’n rhaid i gynghorau lleol ddarparu llwybrau ac ystyried beicwyr a cherddwyr wrth gynllunio ffyrdd a rheilffyrdd newydd.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn darparu £14m y flwyddyn ar gyfer isadeiledd teithio llesol.

Ond, yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru ac aelod o’r pwyllgor mae’r gwariant ar deithio llesol “wedi lleihau”.

‘Angen gwario mwy’

“Y llynedd, fe wnes i herio’r Gweinidog wedi i Blaid Cymru ryddhau ffigyrau a oedd yn dangos fod Llywodraeth Lafur wedi lleihau gwariant ar deithio llesol ar ôl cymeradwyo’r Ddeddf,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Bellach, rydym ni’n gwybod fod hyn wedi llithro hyd yn oed yn bellach, er gwaethaf protestiadau.”

Esboniodd fod Plaid Cymru wedi cefnogi’r ddeddf, ond “fe wnaethom rybuddio y byddai rhaid i Lywodraeth Cymru wario mwy er mwyn iddi fod yn effeithiol. Yn anffodus, mae Llafur wedi methu â chyflawni.”

‘Codi ymwybyddiaeth’

Mewn ymateb i’r adroddiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n ystyried y canfyddiadau, ac yn rhyddhau cynllun Teithio Llesol newydd i Gymru  yn fuan gan amlygu cynlluniau tymor hir a byr i hybu teithio llesol yng Nghymru.

Cyfeiriodd at y £14m y flwyddyn sy’n cael ei neilltuo gan ychwanegu: “Rydym yn credu ei bod hi’n bwysig fod y ffynonellau cyllido hyn yn amrywiol a bod ystyriaeth i deithio llesol yn dod yn rhan o adeiladu a gwella prosiectau.

“Rydym hefyd yn ymrwymedig i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ddeddf bwysig hon drwy amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu, gan gynnwys cynnal digwyddiadau Teithio Llesol gyda grwpiau gwahanol.”