Mae morlo bychan a gafodd ei glwyfo’n wael, wedi cael ei ddarganfod ar draeth bychan yn agos i Borth Mawr, Tŷ Ddewi.

Roedd gan yr anifail glwyfau ar ei wyneb, llygad a’i wddf, ac mae bellach yn cael gofal gan y RSPCA lleol yn Sir Benfro.

Yn ôl yr RSPCA, mae’r morlo yn dechrau gwella a bydd yn aros yn y ganolfan adfer bywyd gwyllt tan iddo fod yn ddigon iach i fynd yn ôl i’r môr.

“Gwnaethon ni lanhau ei glwyfau, oedd wedi cael eu heintio’n wael, a chafodd antibiotig a moddion lladd poen yn syth,” meddai Ellie West o’r RSPCA.

Dywedodd fod y clwyfau mwy na thebyg wedi’u hachosi gan forlo arall.

‘Gormod o forloi yn cael eu symud heb eisiau’

Mae llawer o forloi bach yn cael eu canfod ar draethau yng Nghymru, ond tra bod rhai o’r rhain angen cymorth, dywedodd yr RSPCA fod gormod ohonyn nhw yn cael eu symud gan fod pobol yn meddwl eu bod ar eu pennau eu hunain.

Y cyngor yw gadael morloi bychan os yw’n edrych yn ffit ac yn iach ac nad yw’n dangos unrhyw arwyddion ei fod mewn poen, a’i fonitro o bellter diogel am 24 awr.

Mae morlo iach yn fawr ac yn dew ac heb wddf, tra bod un gwan yn denau ac mae ei wddf yn y golwg.

Yn ôl yr RSPCA, mae angen cymorth ar rai morloi bychan gan fod nhw’n gallu cael eu gwahanu o’u mamau gan stormydd.

Os nad yw’r fam yn dod yn ôl i’r bychan o fewn 24 awr, neu ei fod yn edrych yn sâl, gallwch ffonio llinell greulondeb y RSPCA 24 awr y dydd ar 0300 1234 999.

Gall morloi gnoi a allai fynd yn heintus gan y bacteria sy’n byw yng ngheg y morlo, felly peidiwch â chyffwrdd un, na gadael i unrhyw gŵn fynd yn agos iddo.