Y Gwyll
Mae pedair rhaglen S4C wedi cael eu henwebu am wobrau yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd eleni.

Mae’r rhaglenni sydd wedi eu henwebu yn cynnwys y raglen blant Llond Ceg; y ddrama drosedd Y Gwyll/Hinterland; rhaglen ddogfen Dagrau o Waed: Rhyfel Corea; a’r ffilm ddogfen am ddringwyr, Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle.

Dyma’r nifer fwyaf o enwebiadau mae S4C wedi cael yn y gwobrau er bod rhaglenni’r  sianel wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diweddar gan ennill un Wobr Aur, dwy Wobr Arian a dwy Wobr Efydd rhwng 2013 a 2015.

‘Balchder mawr’

Dywedodd cyfarwyddwr cynnwys a darlledu S4C, Dafydd Rhys, fod yr enwebiadau yn destun balchder mawr i S4C ac eu bod nhw’n brawf o fentergarwch y sianel wrth fanteisio ar gyfleoedd i arddangos ei chynnwys ar draws y byd.

Meddai Dafydd Rhys: “Mae’r enwebiadau eleni, y nifer uchaf eto i S4C yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd, yn destun balchder mawr ac yn glod i’r sector gynhyrchu hynod greadigol a thalentog yng Nghymru.

“Llongyfarchiadau i bawb ar yr enwebiadau.”

Bydd Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2016 yn cael ei chynnal yn Las Vegas ar 19 Ebrill.