Cafodd April Jones ei llofruddio gan Mark Bridger yn 2012
Mae rhaglen ddogfen sy’n olrhain hanes y ferch fach bump oed, April Jones o Fachynlleth wedi ennill gwobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Cafodd April ei llofruddio gan Mark Bridger yn 2012 wedi iddi gael ei chipio o’i chartref, ac fe gafodd ei garcharu am oes.

Mae’r rhaglen ‘Week In Week Out: Life After April’ yn adrodd hanes y teulu ers i’w merch gael ei lladd, ac mi ddaeth i’r brig yn y categori Materion Cyfoes y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau.

Dywedodd y beirniaid fod y rhaglen yn “ddarn rhagorol o newyddiaduraeth… oedd wedi ein tynnu i mewn yn ddwfn i drawma teulu oedd yn dal i alaru wedi iddyn nhw golli eu merch”.

Y Cymro, Jeremy Bowen ddaeth i’r brig yn y categori Cyfweliad y Flwyddyn am ei gyfweliad ecsgliwsif gydag Arlywydd Syria, Bashar al-Assad.