Y ffilm am fywyd Claude Lanzemann ar S4C ar Chwefror 24
Bydd ffilm gan Gymraes sydd wedi’i henwebu am wobr Oscar eleni yn cael ei dangos ar S4C yr wythnos nesaf.

Mae’r ffilm, Claude Lanzmann: Spectres of Shoah, sydd wedi’i chyd-gynhyrchu gan Kimberley Warner o Gonwy, wedi’i henwebu am wobr y Ffilm Ddogfen Fer Orau yn yr Oscars.

Bydd y ffilm, sydd yn yr iaith Ffrangeg, Almaeneg a Saesneg yn ymddangos ar S4C, gydag is-deitlau Cymraeg, nos Fercher, 24 Chwefror am 10 o’r gloch – pedwar diwrnod cyn y noson wobrwyo yn Los Angeles.

Cwmni Rondo oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r ffilm ag is-deitlau Cymraeg, sy’n gofnod o brofiadau’r cynhyrchydd ffilmiau a chrëwr y ffilm ddogfen Shoah yn 1985, sy’n adrodd hanes yr Holocost drwy eiriau llygaid dystion.

Mae’r ffilm eisoes wedi cael ei phrynu gan rai o brif gwmnïau teledu’r Almaen, Ffrainc, Denmarc a’r Unol Daleithiau.

“Tair blynedd epig” o waith

Mae Kimberely Warner yn gynhyrchydd ffilmiau annibynnol, sydd hefyd yn gwneud gwaith goruchwylio ag asiantaeth Ffilm Cymru, sef y gronfa loteri ar gyfer datblygu ffilmiau yng Nghymru.

“Bu hi’n dair blynedd epig o waith i sicrhau ariannu a chreu’r ddogfen yma,” meddai.

“Roedd galw ar Adam (Adam Benzine, awdur a chyfarwyddwr y ffilm) a minnau i wneud popeth, o’r gwaith papur i’r broses negydu cymhleth, a gyda hynny roeddem yn dod wyneb yn wyneb â gwaith Claude bob dydd, ac roedd hynny yn gallu bod yn emosiynol.

“Y gwrthgyferbynnu yma sy’n cyfoethogi’r gwaith o greu rhaglenni dogfen: y cyferbyniad rhwng glamour y gwobrau a gwaith caled y tîm bychan o gynhyrchwyr er mwyn cwblhau’r gwaith.”

“Anrhydedd” dangos y ffilm

Dywedodd Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Ffeithiol S4C ei bod yn “anrhydedd” dangos y ffilm ar S4C.

“Mae hon yn ffilm ddogfen sydd wedi ei chydnabod yn rhyngwladol gan wobrau Academi America gan drin ag un o ddigwyddiadau mwyaf erchyll hanes Ewrop, yr Holocost.

“Mae’n edrych ar hanes creu’r ffilm epig ‘Shoah’ yng ngeiriau’r cyfarwyddwr Claude Lanzmann. Mae ganddo stori anhygoel i’w rhannu, a phrofiadau sydd yn anodd eu hamgyffred, ond sy’n cael eu hadrodd yn rhyfeddol yn y ffilm hon sy’n gynhyrchiad gan Gymraes o Gonwy.”