Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd ardaloedd o dde orllewin Cymru yn derbyn hwb ariannol gwerth £9 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i fynd i’r afael â diweithdra.

Mae disgwyl i Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion elwa o’r buddsoddiad ynghyd â Chastell-nedd Port Talbot – lle collwyd 1,000 o swyddi yn ddiweddar yn dilyn cyhoeddiad gwaith dur Tata ddiwedd mis Ionawr.

Fe fydd yr awdurdodau lleol yn cydweithio â sefydliad Workways+ i gynnig hyfforddiant a phrofiad gwaith gyda thâl i 4,000 o bobol sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Mae’r cynllun yn cynnwys sesiynau mentora, cymorth wrth chwilio am waith, sgiliau cyfweld, a chyfleoedd i ennill cymwysterau newydd.

Mae Workways+ yn anelu at gynorthwyo unigolion sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu eu gallu i weithio, yn ogystal ag unigolion sydd â chyfrifoldebau gofal neu lefel isel o sgiliau.

‘Llwybr gorau allan o dlodi’

“Rydym wedi ymrwymo i wella rhagolygon gyrfa’r bobol y mae diweithdra hirdymor yn effeithio arnyn nhw, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu buddsoddi arian yr Undeb Ewropeaidd i’n helpu i gyflawni’r nod hwn,” meddai Jane Hutt, Gweinidog Cyllid, Llywodraeth Cymru.

Caiff £7.5 miliwn o’r prosiect ei ariannu gan gronfeydd yr UE a’r gweddill ei ariannu gan yr awdurdodau lleol yn y de orllewin.

“Mae Llywodraeth Cymru yn credu’n gryf mai gwaith medrus sy’n talu’n dda yw’r llwybr gorau allan o dlodi ac mae’n rhaid rhoi cefnogaeth i’r bobol sydd fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymunedau.”

‘Canlyniadau aruthrol’

Mae prosiect tebyg eisoes wedi ei gynnal yn y de orllewin rhwng 2009 a 2014, lle manteisiodd 5,000 o bobol ar gefnogaeth Workways.

“Llwyddodd y prosiect Workways gwreiddiol i sicrhau canlyniadau aruthrol wrth helpu pobol i mewn i waith, ac roedd yn uchel iawn ei barch gan gyfranogwyr a chyflogwyr fel ei gilydd,” meddai Alun Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

“Rwy’ wrth fy modd felly gyda chyhoeddiad y Gweinidog bod cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar gael i Workways, ac rwy’n ffyddiog y bydd y staff ymroddedig unwaith eto yn sicrhau bod y prosiect yn llwyddiant mawr.”