Ed Sheeran ac Amy Wadge yn casglu'u gwobr yn y Grammy's
Mae Amy Wadge, y cerddor o Gymru, wedi cael llwyddiant yng ngwobrau’r Grammy’s am gyd-ysgrifennu Cân y Flwyddyn, Thinking Out Loud, gyda’r canwr Ed Sheeran.

Dywedodd Amy Wadge ar ei chyfrif Twitter ei bod “mor hapus” ac yn “falch” o Ed Sheeran am eu llwyddiant.

Cafodd y wobr ei chyflwyno i’r ddau gan neb llai na Stevie Wonder.

Enillwyr eraill

Ymysg enillwyr eraill y noson, daeth Taylor Swift y ferch gyntaf i ennill albwm y flwyddyn ddwywaith yng ngwobrau’r Grammy’s am ei record, 1989.

Fe wnaeth hi hefyd ennill y Grammy am y llais gorau ar record pop a’r record cerddoriaeth gorau am Bad Blood gyda’r rapiwr, Kendrick Lamar.

Kendrick Lamar gafodd y fwyaf o enwebiadau gydag 11 ac fe enillodd  Grammy am yr albwm rap gorau.

Cipiodd Meghan Trainor y wobr am yr artist newydd orau ac enillodd Bruno Mars a Mark Ronson y Grammy am record y flwyddyn am Uptown Funk.

Teyrngedau

Roedd y noson yn cynnwys nifer o deyrngedau i artistiaid sydd wedi marw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Perfformiodd Lady Gaga deyrnged emosiynol o ganeuon ei harwr David Bowie, a fu farw’n gynharach eleni.

Roedd teyrngedau hefyd i Ian “Lemmy” Kilmister o Motörhead, Maurice White o Earth, Wind & Fire, BB King a Glenn Frey o’r Eagles.