Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid gwerth £21 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig (BBaChau) i dyfu.

Yn ôl Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, fe fydd hyn yn diogelu mwy na 1,800 o swyddi.

Fe esboniodd fod 99% o fusnesau Cymru yn fusnesau Bach a Chanolig ac yn cyflogi 60% o’r bobol sy’n gweithio yn y sector breifat.

Am hynny, “busnesau bach yw sylfaen economi Cymru,” ac fe ddywedodd fod Llywodraeth Cymru am eu gweld yn llwyddo.

“Fel llywodraeth sydd o blaid busnes, rydym yn deall ei bod yn bwysig helpu BBaChau â’u llif arian ac i gael gafael ar gyllid.  Bydd yr arian newydd yn helpu mwy o fusnesau Cymru i gael gafael ar y cyllid sydd eu hangen arnynt i dyfu ac i greu swyddi.”

Busnes yn Noc Penfro

 

Fe gyhoeddodd y Gweinidog ei datganiad wrth ymweld â chwmni Polar Lodges yn Noc Penfro.

Fe dderbyniodd y cwmni sy’n gwneud carafanau sefydlog a chabanau pren fenthyciad Micro-fusnes Cyllid Cymru.

“Fe ddechreuon ni ein busnes i wneud celfi gardd yn 2010 ac ers hynny, rydyn ni wedi tyfu’n gyflym ac erbyn heddiw, rydyn ni’n gwneud carafanau a chabanau sy’n cael eu gwerthu ledled Ewrop,” meddai David Embra o Polar Lodges.

“Rydyn ni wedi cyfuno micro-fenthyciad Cyllid Cymru â’n harian ein hunain a chyllid arall i brynu’r offer sydd ei angen arnon ni i gynhyrchu carafanau a chabanau pren yn fwy cost-effeithlon.”

 ‘Newyddion da’

Fe groesawodd Gareth Bullock, cadeirydd Cyllid Cymru gyhoeddiad Llywodraeth Cymru hefyd.

“Mae’r cyhoeddiad yn newyddion da gan ei fod yn dangos yn glir ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu BBaChau Cymru i gael gafael ar gyllid i dyfu.”

“Mae microfusnesau a busnesau technoleg flaengar yn rhannau pwysig iawn o economi Cymru a chyda hwb o £6m i’r Gronfa Benthyciadau i Ficro-fusnesau a £10m ar gyfer busnesau technoleg, mae Cyllid Cymru yn gallu rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar y busnesau hyn i gael effaith hyd yn fwy tymor hir.”

 

Cronfeydd

Fe fydd yr arian yn cael ei ddosbarthu trwy gronfeydd Cyllid Cymru a chronfa Ad-daladwy Llywodraeth Cymru i BBaChau.

Mae’r gronfa Ad-daladwy yn cynnig cyllid ad-daladwy rhwng £50,000 a £500,000 i helpu BBaChau i dyfu, gyda’r bwriad o ddiogelu o leiaf 500 o swyddi.

Fel rhan o Gyllid Cymru, fe fydd y gronfa Fenthyciadau i Ficro-fusnesau yn cael hwb o £6 miliwn. Mae’r gronfa honno’n cynnig benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 i ficrofusnesau.

Ers ei lansio yn 2012, mae wedi buddsoddi mwy na £5m mewn tua 200 o gwmnïau gan ddiogelu 1,000 o swyddi.

Fe fydd y Gronfa Fuddsoddi mewn Mentrau Technoleg, Llywodraeth Cymru, hefyd yn cael gwerth £10 miliwn i fuddsoddi mewn busnesau technoleg flaengar.

Fe fydd y £6m ychwanegol yn helpu busnesau i greu a diogelu 1,000 o swyddi ac yn gobeithio denu gwerth £3.6m yn fwy o fuddsoddiad.