Mae’r Blaid Lafur yn parhau i fod ymhell ar y blaen o’i gymharu â phleidiau eraill cyn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai, ond mae twf yn y gefnogaeth i UKIP yn bygwth cystadleuaeth rhwng y tair plaid am yr ail safle, yn ol canlyniadau arolwg barn newydd.

Yr arolwg barn, a gynhaliwyd gan y Baromedr Gwleidyddol Cymreig, yw’r cyntaf o’i fath eleni sy’n rhoi syniad o’r gefnogaeth sydd i bleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Yn ogystal â gofyn am fwriad pleidleisio pobl yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, fe wnaeth yr arolwg hefyd ofyn am fwriadau pleidleisio ar gyfer y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd sy’n  dangos bod yr ymgyrch i adael wedi ymestyn ei fantais i 8% yn erbyn yr ymgyrch i aros.

Neges gyffredinol

Gydag ychydig fisoedd i fynd tan etholiadau’r Cynulliad, y neges gyffredinol yw bod Llafur yn parhau i fod  ymhell ar y blaen ar hyn o bryd. Er hynny, mae’r blaid wedi colli 10% mewn pum mlynedd, a dyw’r gostyngiad ddim yn edrych fel petai am ddod i ben eto.

Gyda dim llawer o newid yng nghefnogaeth y ddwy blaid, dyw hi ddim yn edrych yn debygol y bydd y Ceidwadwyr na Phlaid Cymru’n cipio’r seddi y byddai angen iddyn nhw i herio goruchafiaeth Llafur yn y Cynulliad.

Mae pethau’n edrych yn waeth ar y Democratiaid Rhyddfrydol sydd heb wneud unrhyw gynnydd o gwbl. Yn ôl yr Athro Roger Scully, Athro Gwyddor Wleidyddol yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cyhoeddi canlyniadau’r arolwg ar ei flog, oni bai y gall y Democratiaid Rhyddfrydol gael rhyw fath o adfywiad erbyn mis Mai, byddai hyd yn oed cadw dwy sedd yn optimistaidd.

Ond yr enillwyr clir yn yr arolwg yw UKIP – er gwaetha’r rhaniadau mewnol diweddar, mae eu cefnogaeth yn parhau i dyfu yng Nghymru ac mae hi’n edrych yn fwyfwy tebygol fod y blaid ar y trywydd iawn i ennill lle yn y Cynulliad mewn niferoedd sylweddol ar ôl etholiad mis Mai.

Canlyniadau

Petai’r arolwg yn gywir, dyma fyddai’r canlyniad ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai:

Llafur: 28 sedd

Ceidwadwyr: 13 sedd

Plaid Cymru: 10 sedd

UKIP: 9 sedd

Democratiaid Rhyddfrydol: 2 sedd

Refferendwm Ewrop

O ran refferendwm aelodaeth y DU yn yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd yr Athro Roger Scully fod yr arolwg yn cyd-fynd â’r darlun cyffredinol ar draws Prydain sydd wedi dangos fod y momentwm yn symud i gyfeiriad yr ymgyrch i adael dros yr wythnosau diwethaf.

Fodd bynnag, rhybuddiodd bod rhaid bod yn ofalus cyn dod i’r casgliad y bydd Cymru’n debygol o bleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd pan fydd y refferendwm yn cael ei gynnal gan fod peth amser i fynd eto tan y bleidlais a bod gwahaniaethau sylweddol rhwng y gwahanol arolygon barn.

Fe wnaeth yr arolwg a gynhaliwyd gan YouGov i ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd holi sampl o 1024 o oedolion yng Nghymru rhwng 9 ac 11 Chwefror 2016.