Mynydd Tryfan yn Eryri
Cafodd dau gerddwr eu hachub yn Eryri dros y penwythnos.

Fe wnaeth y ddau gerddwr  alw am gymorth am 2:30 brynhawn dydd Sadwrn, 13 Chwefror ar ôl mynd yn sownd ar ochr ogleddol mynydd Tryfan oherwydd y tywydd gaeafol.

Cafodd y ddau eu hachub gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau.

Mae timau achub mynydd yn cynghori pobl i edrych ar y rhagolygon tywydd cyn mentro i ddringo mynyddoedd Eryri.