Mae gostyngiad wedi bod yn yr arian sy’n cael ei roi i ymddiriedolaethau iechyd meddwl yn y blynyddoedd diwethaf, yn ôl adroddiadau.

Yng Nghymru fe fu gostyngiad mewn gwariant o 1.1% yn 2014-15, gan gynyddu i 1.2% yn 2015/16, yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan y BBC.

Yn Lloegr fe fu gostyngiad o 2% rhwng 2013/14 hyd at 2014/15. Cynnydd o 0.1% yn unig fu yn yr Alban y llynedd, ac mae disgwyl gostyngiad o 0.4% eleni, meddai’r BBC.

Mae’r Adran Iechyd wedi dweud nad yw’r arian sy’n cael ei roi i ymddiriedolaethau yn cynrychioli’r holl arian ar gyfer gofal iechyd meddwl, sydd hefyd yn cael ei ddosbarthu drwy’r awdurdodau lleol, sefydliadau yn y sector preifat, ac ymddiriedolaethau ysbyty.

Mae gostyngiad hefyd wedi bod yn nifer y nyrsys sy’n gweithio yn y sector seiciatryddol, yn ôl y BBC.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r gwariant ar iechyd meddwl wedi cael ei ddiogelu ers 2008 a bod mwy yn cael ei wario ar iechyd meddwl nag unrhyw ran arall o’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Dywedodd llefarydd: “Mae’r cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru wedi cynyddu bob blwyddyn ac fe fydd y gwariant eleni yn £600 miliwn, cynnydd o’r £510 miliwn o wariant yn 2010-11.”