Mae’r Cadfridog Syr Nicholas Carter yn mynnu bod y diwylliant o fewn y Fyddin wedi newid yn sgil nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â nifer o filwyr o Gymru.

Roedd pennaeth y Fyddin, y Cadfridog Syr Nicholas Carter yn siarad â rhaglen Daily Politics Wales y BBC wrth i’r cwest i farwolaeth Cheryl James o Langollen barhau.

Bu hi farw yn 1995 yn dilyn honiadau bod milwr arall wedi ymddwyn yn rhywiol tuag ati.

Cafodd agweddau milwyr eu cwestiynu yn ystod y cwest yr wythnos diwethaf, ac fe gyfaddefodd un o benaethiaid barics Deepcut yn Swydd Surrey fod diwylliant rhywiol yn bodoli yno.

A daeth cwest ym mis Gorffennaf i’r casgliad bod tri milwr – Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby – wedi cael eu hesgeuluso cyn iddyn nhw farw yn ystod ymarferiad recriwtio ym Mannau Brycheiniog yn 2013.

Mewn trydydd achos, bu farw Gavin Williams o Gaerffili o ganlyniad i effeithiau’r gwres yn Lucknow yn 2006 wrth iddo gael ei gosbi.

Roedd y crwner yn ei gwest wedi beirniadu’r Fyddin am fethu ag atal ei farwolaeth.

‘Newid diwylliant’

Dywedodd Syr Nicholas Carter: “Mae Cymru’n bwysig iawn i’r Fyddin Brydeinig, nid lleiaf am ei bod yn perfformio ymhell y tu hwnt i’r disgwyl o ran y milwyr y mae’n eu hanfon aton ni.”

Wrth drafod yr achosion lle bu milwyr farw, ychwanegodd: “Fe fyddai’n anodd i’r math yna o beth ddigwydd eto oherwydd rydyn ni wedi newid ein diwylliant.

“Byddwn i’n synnu pe bai’n digwydd eto. Ond fyddwn i byth yn dweud na fydd yn digwydd eto.

“Mae’n siomedig iawn fod y fath beth yn gallu digwydd. Mae hefyd yn codi cwestiynau i’r rheiny oedd yn gyfrifol ac yn eu gorfodi i edrych yn ofalus ar y ffordd y maen nhw’n cadw at weithdrefnau gofalus ynghylch y math hwnnw o ddethol ar sail hyfforddiant.

“Rhaid i’r Fyddin fanteisio’n llawn ar ei doniau. Rhan o hynny yw cael strwythur gyrfa y gall pob rhan o’r gymdeithas gymryd rhan ynddi.

“Mae gyda ni enw da ac fe fyddwn ni’n dal ymlaen i hynny.”