Aberdaugleddau
Gallai trychineb y Sea Empress gael ei ailadrodd yn sgil toriadau i wasanaethau brys ar yr arfordir, meddai’r cyn-Aelod Seneddol Nick Ainger.

Gwnaeth cyn-Aelod Seneddol Sir Benfro ei sylwadau ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales fore Sul.

Bu farw miloedd o adar yn dilyn y trychineb yn Aberdaugleddau yn 1996, ac mae’r penderfyniad i dorri gwasanaethau’n dangos nad yw gwersi wedi cael eu dysgu 20 mlynedd yn ddiweddarach, meddai Ainger.

Dywed yr Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau fod yna ymdeimlad y dylai’r diwydiant llongau ariannu’r fath wasanaeth.

Cafodd 72,000 tunnell o olew ei ollwng i’r môr yn sgil trychineb y Sea Empress, ac fe gostiodd £60 miliwn i lanhau’r arfordir.

Roedd gan yr arfordir bedwar bad, ond fe gawson nhw eu dad-gomisiynu yn 2011 – er bod un yn parhau i wasanaethu’r arfordir tan fis Mawrth eleni.

“Gyda’n harfordir anferth a’r holl longau sy’n dod i mewn ac allan o Aberdaugleddau o Fôr y Gogledd yn cludo olew crai, does gyda ni ddim bad tynnu mewn argyfwng sydd wedi’i ariannu gan y llywodraeth.

“Dw i’n credu y dylid ail-ddysgu’r wers honno’n gyflym iawn cyn i ni gael trychineb arall.”