‘Allwn ni ddim aros 800 mlynedd am addysg cyfrwng Cymraeg i bawb’ oedd neges ymgyrchwyr mewn rali yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Cafodd y rali ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ ei chynnal wedi i adroddiadau blynyddol Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf ddangos bod cynnydd blynyddol o lai na 0.1% wedi bod yn nifer y plant saith mlwydd oed sy’n mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg.

Dywed Cymdeithas yr Iaith y byddai’n cymryd mwy nag 800 mlynedd i bob plentyn dderbyn addysg Gymraeg pe bai’r patrwm hwnnw’n parhau.

Ymhlith y rhai sydd wedi llofnodi datganiad yn galw am drawsnewid y ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mae undeb athrawon UCAC, Dathlu’r Gymraeg a Merched y Wawr.

Yn ystod y digwyddiad ddydd Sadwrn, y siaradwyr gwadd oedd Caryl Parry Jones, Kizzy Crawford ac Elaine Edwards (UCAC).

‘Rhaid gweithredu’

Yn ystod y rali, dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Jamie Bevan: “Pa blaid neu bleidiau bynnag sy’n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru, mae rhaid iddyn nhw weithredu gyda gweledigaeth a gwireddu ewyllys y Cymry i weld ein hiaith yn ffynnu.

“Ar drothwy etholiadau’r Cynulliad, un o’n galwadau pwysicaf yw sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.

“Mae’r gwleidyddion yn honni eu bod eisiau creu Cymru gwbl ddwyieithog – ond ni fydd y drefn addysg bresennol yn llwyddo i wneud hynny.

“Yn ôl ffigyrau’r Llywodraeth ei hun, mae twf addysg Gymraeg yn rhyfeddol o araf. Does bosibl y gall unrhyw un ddadlau nad yw’n cymryd yn rhy hir. Allwn ni ddim aros dros 800 mlynedd.”

Meddai’r gantores a digrifwr Caryl Parry Jones: “Be’ sy’n bod ar siarad dwy iaith? Dim na all gweledigaeth, ewyllys a pharch ei ateb. Mae’r Gymraeg ISIO byw”.

Ychwanegodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb athrawon UCAC: ” Er mwyn i ni lwyddo i gyrraedd y nod mae angen  cynllunio’r gweithlu addysg yn llawer mwy effeithiol – denu siaradwyr Cymraeg rhugl a hefyd gwella sgiliau Cymraeg eraill.

“Mae angen cynllunio’r holl weithlu gan gynnwys gwasanaethau cefnogi addysg. Mae’n rhaid symud ymlaen ar frys i greu a gweithredu polisïau cadarn a chlir am y Gymraeg – gan gynnwys dileu Cymraeg ail iaith.

“Mae polisïau addysg y gorffennol wedi creu’r problemau – dewch i ni sicrhau bod polisïau addysg y dyfodol yn eu datrys.”