Cymru 27–23 Yr Alban

Mae gobeithion Cymru yn fyw o hyd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddynt drechu’r Alban yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Roedd cais yr un i Jamie Roberts a George North mewn cyfnod o chwe munud yn yr ail hanner yn ddigon i’r tîm cartref yn y diwedd, er i’r Albanwyr reoli rhannau helaeth o’r gêm.

Hanner Cyntaf

Cafodd Cymru’r dechrau perffaith gyda chais i Gareth Davies wedi dim ond saith munud, y mewnwr yn gorffen yn wych ar ôl casglu pêl rydd ar hanner ffordd.

Rhoddodd trosiad Dan Biggar Gymru saith pwynt ar y blaen ond yr Alban oedd tîm gorau’r hanner cyntaf wedi hynny.

Roeddynt yn haeddiannol gyfartal wedi llai na chwarter awr diolch i gais Tommy Seymour a throsiad Greig Laidlaw. Cadwodd yr Albanwyr y bêl yn effeithiol am sawl cymal cyn i gic gywrain Finn Russell ganfod yr asgellwr, Seymour, yn y gornel.

Cyfnewidiodd Laidlaw a Biggar gic gosb yr un wedi hynny cyn i fewnwr yr Alban orffen yr hanner gyda chic lwyddiannus arall, 10-13 y sgôr ar yr hanner.

Ail Hanner

Daeth pwyntiau cyntaf yr ail hanner o droed Biggar wrth i faswr Cymru unioni’r sgôr unwaith eto ond aeth yr Alban yn ôl ar y blaen wedi hynny gyda thri phwynt gan Laidlaw.

Cymru serch hynny orffennodd y gêm orau gan reoli’r chwarter olaf. Roedd angen tacl dda gan Duncan Taylor i atal Tom James rhag sgorio wedi bylchiad o’i linell 22 medr ei hun, ond mater o amser oedd hi.

Chwarter awr oedd i fynd pan ddewisodd Gymru sgrym yn lle tri phwynt syml o flaen y pyst a thalodd y penderfyniad ar ei ganfed wrth i Roberts daranu drosodd o bum medr ar ôl taro’r lein ar ongl wych i dderbyn pas Davies.

Rhoddodd trosiad Biggar bedwar pwynt o fantais i Gymru ac roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel chwe munud yn ddiweddarach pan groesodd North wedi symudiad cae ymarfer o fôn sgrym.

Ychwanegodd Biggar y ddau bwynt i ymestyn y fantais i dri phwynt ar ddeg a chais cysur yn unig oedd ymgais hwyr Taylor i’r ymwelwyr, 27-13 y sgôr terfynol.

.

Cymru

Ceisiau: Gareth Davies 7’, Jamie Roberts 65’, George North 71’

Trosiadau: Dan Biggar 8’, 65’, 72’

Ciciau Cosb: Dan Biggar 35’, 47’

.

Yr Alban

Ceisiau: Tommy Seymour 12’, Duncan Taylor 79’

Trosiadau: Greig Laidlaw 14’, Duncan Weir 80′

Ciciau Cosb: Graig Laidlaw 31’, 40’, 55’