Mae aelod o Gabinet Cyngor Sir Bro Morgannwg wedi cael ei ddewis yn ymgeisydd Llafur ar gyfer is-etholiad seneddol etholaeth Ogwr ym mis Mai.

Gobaith Chris Elmore yw olynu Huw Irranca-Davies fel Aelod Seneddol etholaeth sydd wedi bod yn un gadarnleoedd y blaid Lafur.

Mae’n 32 oed ac yn byw yn y Barri. Mae wedi bod yn gynghorydd ers wyth mlynedd ac yn gwasanaethu ar hyn o bryd fel yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant ac Ysgolion.

“Dw i wrth fy modd o gael cefnogaeth aelodau Llafur Cymru yn Ogwr ar gyfer yr is-etholiad,” meddai Chris Elmore. “Mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn lladmerydd cryf i bobl leol yn y Senedd dros y 14 mlynedd ddiwethaf ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl.

“Fe fyddaf yn falch o gyd-ymgyrchu gydag ef fel ymgeisydd Ogwr ar gyfer y Cynulliad er mwyn sicrhau bod Ogwr yn dychwelyd Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Llafur a Llywodraeth Lafur yng Nghymru ym mis Mai.”