Mae’r miloedd sy’n ceisio cyflawni Her y Tri Chopa – sef dringo i fyny’r Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis yr un diwrnod – yn achosi problemau i wardeiniaid Parc Cendlaethol Eryri.

Eu pryder yw bod yr her yn cyfrannu at erydu llwybrau, colli cynefinoedd, problemau parcio a sbwriel ar y mynyddoedd.

Er mwyn ceisio lleihau’r effaith maen nhw’n apelio ar i unrhyw rai sy’n awyddus i gymryd rhan mewn her o’r fath i gofrestru ymlaen llaw.

Maen nhw hefyd yn gofyn i’r cerddwyr gyflawni’r her dros dri diwrnod yn lle’r 24 awr traddodiadol, a chymryd amser i werthfawrogi’r golygfeydd.

“Wrth gofrestru rwan, mae’n rhoi digon o amser i bobl gynllunio a pharatoi ar gyfer eu Her,” meddai uwch-warden Parc Cenedlaethol Eryri, Helen Pye.

“Penderfynwch ar ddyddiad, cynlluniwch eich taith yn ofalus, a darllenwch gyngor yr arbenigwyr ar sut i aros yn ddiogel.

“Y cynta’n byd i chi gofrestru a chynllunio’n ofalus, gorau’n byd fydd eich profiad, ac mi fyddwch chi, y mynyddoedd a’r ardal o’ch cwmpas yn elwa.”

Gellir cofrestru’n ddi-dâl ar y wefan bwrpasol sy’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol: www.threepeakspartnership.co.uk