Does dim peryg i neb gymryd pethau’n ganiataol yn erbyn yr Alban y prynhawn yma, yn ôl hyfforddwr cynorthwyol Cymru.

Ar ôl curo’r Alban ym mhob un o’r wyth gêm ddiwethaf, mae gobeithion Cymru’n uchel am fuddugoliaeth arall.

“Mae gennym barch mawr at yr Alban – maen nhw’n tynnu’r gorau allan ohonon ni,” meddai Shaun Edwards.

“Y timau sy’n tynnu’r gorau allan ohonoch chi yw’r timau y gwyddoch chi y gallan nhw eich brifo. Felly does dim cwestiwn o gymryd dim byd yn ganiataol.”

Pencampwriaeth ‘yn ein dwylo ni’

Er bod y gêm gyfartal yn Iwerddon yr wythnos diwethaf wedi dryllio unrhyw obeithion am gamp lawn neu goron driphlyg, gallai pedair buddugoliaeth fod yn ddigon i ennill pencampwriaeth y chwe gwlad.

“Mae hyn yn dal yn ein dwylo ni, dyna sy’n dda,” meddai Shaun Edwards.

“Pe baen ni wedi colli yn erbyn Iwerddon, fe fyddai’n rhaid dibynnu ar dimau eraill i golli. Os bydd Iwerddon yn ennill pob gêm, yna fe fydd yn rhaid inni eu curo ar wahaniaeth pwyntiau, ond mae’n dal yn ein dwylo ni.”

Y clo, Alun-Wyn Jones, yw’r unig chwaraewr heddiw a oedd yn y tïm a gollodd ddiwethaf i’r Alban, o 21 i 9 yn Murrayfield yn 2007. Dyw’r Alban ddim wedi ennill yng Nghaerdydd ers 2002.

Bydd y gêm, sy’n cychwyn am 5 y prynhawn yma, i’w gweld ar S4C ar raglen fyw rhwng 16.50 a 19.15.