Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad angheuol ddigwyddodd ar draffordd yr M4 ger Abertawe bore yma.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 06:13 rhwng cyffordd 45 a chyffordd 46 tua’r dwyrain.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau fod y dyn a oedd yn teithio mewn fan Peugeot wedi marw o’i anafiadau, tra bod y gyrrwr wedi gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.

Mae swyddogion cyswllt teulu Heddlu De Cymru yn cefnogi teulu’r dyn ar hyn o bryd.

Mae’r Heddlu yn apelio am dystion sydd wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.

Mae’r ffordd i’r dwyrain yn parhau ar gau, wrth i draffig gael ei ddargyfeirio.