Cheryl James
Yn y cwest i farwolaeth milwr o Langollen yng Ngwersyll Deepcut yn Swydd Surrey, mae swyddog o’r fyddin wedi cydnabod fod rhai swyddogion o’r fyddin yn gweld aelodau newydd fel ‘sialens rywiol’.

Fe gafodd y milwr Cheryl James, 18 oed, ei darganfod gyda bwled yn ei phen yn y gwersyll ym 1995.

Fe ddywedodd y  Brigadydd John Donnelly a oedd yn gyfrifol am faterion lles o fewn y fyddin nad oedd pawb yn cadw at y gwerthoedd yr oedd y fyddin yn ei ddisgwyl.

Mae’r cwest yn parhau.