Mae’r Urdd wedi cyhoeddi y bydd bar ar faes yr eisteddfod am y tro cyntaf pan fydd yr ŵyl ieuenctid yn ymweld â Sir y Fflint ddiwedd mis Mai.

Fe fydd yn rhan o ddatblygiad newydd gan drefnwyr yr ŵyl er mwyn ceisio denu pobl ifanc i aros ar gyfer y penwythnos olaf.

Cyhoeddodd yr Urdd y byddai’r dydd Gwener a Sadwrn olaf yn cael eu trawsnewid yn “ŵyl gerddorol i bobl ifanc”, gyda bandiau ac artistiaid yn perfformio a gig ar y maes nos Sadwrn.

Bydd modd i bobl hefyd wersylla ger y maes ar y ddwy noson olaf, gyda phris y pecynnau gwersylla yn amrywio o £17 i gystadleuwyr ac aelodau’r Urdd i £30 i oedolion.

‘Mwy i’r to hŷn’

Mae Mellt, Y Bandana, Candelas a Band Pres Llareggub eisoes ymysg y bandiau fydd yn perfformio ar y penwythnos olaf.

Ac yn ôl Branwen Haf, trefnydd y penwythnos a Threfnydd Cynorthwyol Eisteddfod yr Urdd, mae’r datblygiad yn ymateb i alw cynyddol gan aelodau hŷn y mudiad ieuenctid.

“Mae hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous sydd wedi deillio o drafodaethau Bwrdd Syr IfanC, ein fforwm ieuenctid genedlaethol,” meddai.

“Roeddent yn teimlo, er bod digon i deuluoedd ei wneud ar y Maes, y byddai’n braf pe gallem gynnig rhywbeth penodol i bobl ifanc ar y penwythnos olaf.”

‘Dim effaith ar y cystadlu’

Mae Eisteddfod yr Urdd eleni’n cael ei chynnal rhwng 30 Mai a 4 Mehefin ar dir Ysgol Uwchradd Y Fflint.

Mynnodd Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, na fyddai’r datblygiad yn effeithio ar y cystadlu yn y pafiliwn, a’i bod hi’n bryd addasu gyda’r oes.

“Er mwyn i Eisteddfod yr Urdd ffynnu, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ein bod yn gwrando a gweithredu ar farn y bobl ifanc rydym ni yn ceisio eu cyrraedd,” meddai.

“Mae hwn yn ddatblygiad newydd a chyffrous ac rydym yn hyderus y bydd yn apelio at aelodau hŷn yr Urdd.”