Vincent Tan
Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi addo dileu dyledion y clwb yn gyfan gwbl o fewn pum mlynedd.

Ar ymweliad prin â Chymru’r wythnos hon fe ddywedodd Vincent Tan y bydd yn haneru dyled y clwb, sydd ar hyn o bryd dros £100m.

Roedd y dyn busnes o Falaysia eisoes wedi dileu £13m o ddyled y clwb tymor diwethaf, meddai, ac fe fyddai’n dileu £10m arall tra hefyd yn troi £68m o ddyledion y clwb i ecwiti.

Byddai hynny’n gadael £40m o ddyledion ar ôl gan y clwb, ac fe ddywedodd y byddai’n cael gwared ag £8m o hwnnw bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf er mwyn cael ei wared yn gyfan gwbl erbyn 2021.

‘Saethwch fwy’

Mewn sesiwn holi ag ateb gyda chefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mynnodd Tan fod rheolwr presennol y clwb Russell Slade yn gwneud gwaith da ac nad oedd wedi gwastraffu arian yn fyrbwyll fel y rheolwyr blaenorol Malky Mackay ac Ole Gunnar Solskjaer.

Dywedodd bod y setliad diweddar dros y ddyled i Langston, cwmni oedd yn cael ei reoli gan gyn-berchennog Caerdydd Sam Hammam, yn golygu ei fod bellach yn fwy rhydd i daclo dyledion y clwb.

Ond er nad oedd y gŵr a newidiodd liwiau’r clwb o las i goch rhwng 2012 a 2015 wedi bod draw i wylio’r tîm yn chwarae ers dros flwyddyn, mae’n debyg ei fod wedi rhoi cyngor tactegol i’r chwaraewyr yn ystod ei ymweliad diweddaraf.

“Fe wnes i gael sgwrs â nhw a dweud y dylen nhw saethu at y gôl yn fwy aml,” meddai Vincent Tan yn ôl WalesOnline.

“Ar gyfartaledd po fwyaf wnewch chi saethu, y mwyaf wnewch chi sgorio. Os saethwch chi 30 gwaith fe gewch chi dair gôl, 40 gwaith yn bedair gôl, 50 gwaith ac fe gewch chi bum gôl.”