Mae nifer o fudiadau wedi galw ar  Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn er mwyn ceisio cyrraedd targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae sawl grŵp, gan gynnwys yr undeb athrawon UCAC, Dathlu’r Gymraeg a Merched y Wawr, wedi cytuno i alw ar yr holl bleidiau sy’n sefyll yn etholiadau’r Cynulliad i drawsnewid y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu.

Fe fydd datganiad yn cael ei arwyddo’n swyddogol yn y rali ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ yng Nghaerdydd fory sy’n rhan o daith bws Cymdeithas yr Iaith i godi proffil y Gymraeg cyn Etholiadau’r Cynulliad.

‘Allweddol’

“Rydyn ni’n falch iawn y bod nifer o fudiadau wedi cytuno i leisio barn dros addysg Gymraeg i bawb,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith. “Mae’n allweddol o ran sicrhau twf y Gymraeg a chyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

“Ddylai ein trefn addysg ddim amddifadu’r un plentyn o’r hawl i allu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae’r system yn methu ac yn creu dinasyddion eilradd, nad ydyn nhw’n cael yr un cyfleoedd gwaith a diwylliannol ag eraill, a hynny oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni. Mae’n sefyllfa gwbl annheg.”

Mae’r rali’n cael ei chynnal ar risau Llys y Goron yng nghanol Caerdydd am un brynhawn fory, cyn y gêm rygbi.  Fe fydd y ddwy gantores, Caryl Parry Jones a Kizzy Crawford, ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan.