David Cameron wedi 'pardduo' Gwasanaeth Iechyd Cymru (PA)
Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi galw ar y Prif Weinidog David Cameron i ymddiheuro i holl staff y Gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dilyn cyhoeddi astudiaeth heddiw.

Fe fu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru dan y lach gan David Cameron a Jeremy Hunt yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol fis Mai y llynedd, wrth iddyn nhw honni bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn “eilradd” ac yn “peryglu bywydau”.

Ond mae’r adroddiad a gyhoeddwyd gan y Sefydliad er budd cydweithredu a datblygu economaidd – yr OECD – yn gwrthddweud honiadau’r Toriaid  trwy ddweud “nad oes darlun cyson… o system iechyd un wlad yn perfformio’n well nag un arall”.

Maen nhw hefyd  wedi dod i’r casgliad “fod system iechyd Cymru’n canolbwyntio ar ansawdd a fod gofal o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y claf, yn cael blaenoriaeth uchel.”

Ymddiheuro

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Carwyn Jones, “Mae’r adroddiad heddiw gan yr OECD unwaith eto’n dangos y celwydd fod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn yn tanbefformio o’i gymharu â Lloegr.

“Mae’n bryd i David Cameron a Jeremy Hunt ymddiheuro i staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, am eu pardduo dros gyfnod o flynyddoedd er mwyn cael mantais wleidyddol.”