Elin Jones
Mae Grŵp Newsquest wedi cyhoeddi y bydd swyddfa papur newydd y Tivyside yn Aberteifi yn cau ar 19 Chwefror.

Bydd y papur yn cael ei gynhyrchu o swyddfa’r grŵp yn Hwlffordd, ond fe fydd gohebwyr yn rhannu eu hamser rhwng Aberteifi a Hwlffordd, meddai Newsquest.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru Ceredigion:  “Mae’r newyddion yma’n ergyd go iawn i Aberteifi a De Ceredigion.

“Yn dilyn golygydd Tivyside yn colli ei swydd bedair mis ar ddeg yn ôl, roedd gobaith o leiaf fod y swyddfa am barhau i aros yn y dref.

“Nawr, union 150 mlynedd wedi i’r Tivyside gael ei sefydlu, ni fydd gan y papur unrhyw bresenoldeb swyddfa yn Aberteifi o gwbl.

“Er bod hyn yn ddatblygiad sydd i’w weld ar draws y sector papurau newydd, mae’n peri pryder mawr i ddyfodol y traddodiad balch o newyddiaduraeth sydd yn ardal Dyffryn Teifi.’’