Ffoaduriaid yn cyrraedd ynys Lesbos yng Ngwlad Groeg
Mae Aelod Seneddol wedi galw ar yr awdurdodau yng Nghymru a Phrydain i dderbyn rhagor o ffoaduriaid.

Dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville-Roberts fod angen i genhedloedd Prydain rannu’r cyfrifoldeb:  “Rydym wedi ymuno gydag elusennau fel Oxfam a Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn galw ar genhedloedd Prydain i gymryd eu cyfran deg o ffoaduriaid.

“Serch hynny, mae’r nifer sy’n cyrraedd Cymru yn parhau yn fach iawn.”

Hyd yma, yn ôl Llywodraeth Cymru, mae Cymru wedi derbyn dros 50 o ffoaduriaid ers mis Rhagfyr.

Rhaid gwneud mwy’

Ychwanegodd  Liz Saville-Roberts : “Mae gan Gymru hanes anrhydeddus o gynnig noddfa i ffoaduriaid, ond mae’n rhaid inni wneud mwy, ac mae gwneud mwy yn golygu gorfod delio gyda jig-so cymhleth o awdurdodau, cyfrifoldebau a chyllidebau mewn cyfnod o lymder.

“Mae angen i Lywodraeth Prydain, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol yng Nghymru ac elusennau dynnu ynghyd i sicrhau fod ffoaduriaid yn cael eu croesawu yng Nghymru, a’u bod yn cael y cyfle i setlo a ffynnu, a bod y cymunedau lle maen nhw’n cael eu hail-gartrefu yn cael adnoddau digonol.”