Llun o'r tonnau disgyrchiant
Mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys grŵp o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, wedi gweld tonnau disgyrchiant am y tro cyntaf.

Dyma’r elfen olaf o un o ddamcaniaethau mawr y ffisegwr Albert Einstein union gan mlynedd yn ôl.

O ganlyniad i gyfraniad y Grŵp Ffiseg Disgyrchiant ym Mhrifysgol Caerdydd, gallai’r darganfyddiad ddechrau cyfnod newydd o seryddiaeth lle gellir profi damcaniaethau Einstein ymhellach.

Bydd hefyd yn rhoi ffenestr newydd i ymchwilwyr arsylwi digwyddiadau cosmig eithafol sy’n digwydd yn y Bydysawd.

Cafodd y darganfyddiad ei wneud am 9.51am (amser y DU) ar 14 Medi 2015 gan ddau synhwyrydd ar wahân yn Louisiana a Thalaith Washington. Mae’r synwyryddion hyn yn rhan o Arsyllfa Tonnau Disgyrchiant Ymyriadur Laser (LIGO).

Prosiect Cydweithredol Gwyddonol sy’n cynnal ymchwil LIGO. Mae’n cynnwys tua 950 o wyddonwyr o brifysgolion mewn 15 o wledydd.

‘Darganfyddiad rhyfeddol’

 

Dywedodd yr Athro B S Sathyaprakash, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “O ganlyniad i’r darganfyddiad rhyfeddol hwn gan LIGO, mae gennym gyfle newydd i arsylwi prosesau treisgar yn y Bydysawd, megis tyllau duon a sêr niwtron yn dod ynghyd, uwchnofâu, a ffenomena cosmig eraill.

“Gallwn ddefnyddio’r arsylwadau hyn i brofi damcaniaeth Einstein ynghylch disgyrchiant hefyd, yn ogystal â datrys dirgelwch sylweddau ac ynni tywyll.”

Tonnau disgyrchiant

Roedd Einstein wedi gneud damcaniaeth am donnau disgyrchiant yn gyntaf ym 1916, ac maent yn grychdonnau bach yng ngofod-amser sy’n cael eu hallyrru o ganlyniad i ddigwyddiadau cosmig grymus, fel sêr yn ffrwydro a thyllau duon yn uno.

Mae’r tonnau disgyrchiant yn cario gwybodaeth am eu tarddiad dramatig. Maent hefyd yn rhoi gwybodaeth am natur disgyrchiant na fyddai wedi bod ar gael fel arall.

Yn union yr un modd â charreg yn cwympo i mewn i bwll, mae’r crychdonnau bychain yn teithio tuag allan i’r gofod. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael eu gweld o’r ddaear gan eu bod mor fychain.

‘Trawsnewid ein dealltwriaeth o’r Bydysawd’

Defnyddiwyd uwch-gyfrifiaduron yn y Brifysgol i ddadansoddi’r holl ddata a gynhyrchwyd gan y ddau synhwyrydd i ganfod arwyddion o don disgyrchiant.

Dywedodd yr Athro Mark Hannam, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae’r arsylwad hwn wedi cadarnhau cynifer o bethau yr oeddem wedi’u dyfalu, ond heb fod 100% yn siŵr – hynny ydy, bod tyllau duon yn bodoli, yn ogystal â sêr dwbl, a bod eu màs ddwsinau o weithiau’n fwy na’r haul. Mae hyn wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o’r Bydysawd, ond dim ond y dechrau yw hyn.”