David Lloyd George
Mae dyfodol Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy yn y fantol wrth i Gyngor Gwynedd gyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i redeg amgueddfa i ddathlu bywyd y cyn-Brif Weinidog er mwyn arbed £27,000.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod yr awdurdod lleol wedi ymgynghori cyn dod i’r penderfyniad:  “Cyn y Nadolig, fe wnaeth y Cyngor gynnal ymarferiad ymgynghori gynhwysfawr ‘Her Gwynedd’ ar 118 o opsiynau posib ar gyfer toriadau i wasanaethau ar draws holl adrannau’r Cyngor gan gynnwys cynnig fod y Cyngor yn rhoi’r gorau i redeg Amgueddfa Lloyd George er mwyn arbed £27,000.

“Mewn ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus, derbyniwyd dros 2,100 o ymatebion gan drigolion, busnesau a sefydliadau Gwynedd gydag 16.2% o’r ymatebwyr yn awyddus i’r Cyngor beidio â bwrw ymlaen gyda’r cynnig ar gyfer Amgueddfa Lloyd George.

“Roedd hyn yn gosod y cynnig yn safle rhif 32 allan o’r cyfanswm o 118 o gynigion toriadau posib a gyflwynwyd i’r cyhoedd fynegi barn arnynt.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Dylid pwysleisio mai yng nghyfarfod y Cyngor llawn ar 3 Mawrth y bydd pob un o’r 75 cynghorydd Gwynedd yn penderfynu’n derfynol ar ba gynigion i’w gweithredu.”

‘Awyddus i gydweithio gyda chorff allanol’

Mae’r Cyngor fodd bynnag yn awyddus i gorff allanol gydweithio gyda nhw i gynnig y gwasanaeth hwn:  “Fel rhan o’r broses o wireddu toriadau, mae’r Cyngor wedi clustnodi swyddog i gydweithio gydag unrhyw sefydliadau lleol neu gyrff allanol a fyddai o bosib mewn sefyllfa i gymryd cyfrifoldeb am unrhyw wasanaethau na fydd y Cyngor yn anffodus yn gallu eu cynnal i’r dyfodol.

“Os ydi’r Cyngor llawn yn penderfynu bwrw ymlaen gyda’r cynnig i roi’r gorau i redeg Amgueddfa Lloyd George, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gydweithio i adnabod unrhyw opsiynau amgen a fyddai’n diogelu dyfodol yr adnodd i’r dyfodol.”

Apêl  i adnewyddu’r amgueddfa

Fis diwethaf, i nodi 100 mlynedd ers dechrau cyfnod y Cymro Cymraeg  fel Prif Weinidog Prydain, cafodd ymgyrch ei lansio i gadw ei etifeddiaeth yn fyw.

David Lloyd George yw’r unig siaradwr Cymraeg i fod yn y rôl ac fe oedd y Rhyddfrydwr olaf i gyflawni’r swydd hefyd.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r cyflwynydd Dan Snow, gor-gor-ŵyr y gwleidydd wedi datgan ei gefnogaeth i apêl gwerth £250,000 i adnewyddu amgueddfa Lloyd George.