Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi y bydd deg o lysoedd yng Nghymru yn cau, gan gynnwys pump yn y gogledd.

Mae rhan o gynllun £700 miliwn Llywodraeth Prydain i ail-wampio a moderneiddio’r system gyfiawnder. Fe fydd cyfanswm o 86 o lysoedd yng Nghymru a Lloegr  yn cau.

Ymhlith y rhai sy’n cau yng Nghymru mae Llys Ynadon Prestatyn a Llysoedd y Gyfraith, Caerfyrddin. Ond fe fydd Canolfan Cyfraith Sifil, Teulu, Tribiwnlys a Phrofiant Caerfyrddin yn aros ar agor.

O dan gynlluniau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder fe fydd y llysoedd canlynol hefyd yn cau: Llys y Goron ac Ynadon Dolgellau; Llys Ynadon Caergybi; Llys Sifil a Theulu Llangefni; Llysoedd y Gyfraith, Aberhonddu; Llysoedd y Gyfraith, Pen-y-Bont ar Ogwr; Llysoedd Sifil a Theulu, Castell Nedd a Phort Talbot; Llys Ynadon Pontypridd; a Chanolfan Tribiwnlys a Gwrandawiadau Wrecsam (Rhyd Brychdyn).

Bydd gwaith nifer o lysoedd eraill yn cael ei drosglwyddo i leoliadau eraill cyn i’r rhai hynny gau yn derfynol.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan yr Is-Ysgrifennydd Cyfiawnder Shailesh Vara yn dilyn cynlluniau’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM i dorri costau. Dywedodd bod y llysoedd sy’n cau yn cael eu defnyddio, ar gyfartaledd, lai na dau ddiwrnod yr wythnos.

Daeth ymgynghoriad ynglŷn â’r bwriad i gau’r llysoedd i ben ym mis Hydref y llynedd ac mae’r cyhoeddiad heddiw wedi cael ei feirniadu’n llym.

‘Ergyd drom’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen bod hyn “yn ergyd drom i gymuned Ynys Môn.”

“Rydw i wedi fy siomi gyda chynlluniau’r Llywodraeth i gau’r llysoedd yn Llangefni a Chaergybi a’r modd y gwnaethon nhw benderfynu cyhoeddi’r penderfyniad.

“Yr unig ddewis arall yw Llys y Goron Caernarfon ac i drigolion o ogledd Ynys Môn neu Gaergybi mae hyn yn annerbyniol. Fe fydd yn golygu bod llawer o bobl, sy’n ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn wynebu costau uwch a theithiau hirach.

“Er bod y Llywodraeth yn dadlau y bydd adnoddau eraill yn cael eu darparu, nid ydyn nhw’n rhoi manylion ac mewn rhai achosion dydyn nhw ddim yn bodoli.”

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth fod y penderfyniad yn “warthus.”

Mae Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi dweud wrth arweinydd Tŷ’r Cyffredin bod angen datganiad ar y mater fel bod modd dwyn y Llywodraeth i gyfrif.