Noel Gallagher (llun: Gŵyl Rhif 6)
Mae Gŵyl Rhif 6 wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid a fydd yn perfformio yn yr ŵyl ym Mhortmeirion ym mis Medi. Yn eu plith, mae’r band roc Noel Gallagher’s High Flying Birds a fydd yn ymddangos ar y nos Sul.

Mae’r perfformwyr hefyd yn cynnwys Bastille a fydd yn serennu ar y nos Wener gyda ffefrynnau fel Pompeii ac Of the Night, ynghyd â deunydd oddi ar eu halbwm newydd sydd i’w ryddhau eleni.

Fe fydd Hot Chip yn perfformio ar y nos Sadwrn gydag arlwy o gerddoriaeth eclectro-pop wedi iddyn nhw ryddhau eu chweched albwm stiwdio – Why Make Sense?

Mae disgwyl i’r ŵyl gyhoeddi’r don nesaf o artistiaid yn ystod y misoedd nesaf.

Cymry yn ‘hunllef’

Efallai y bydd ymddangosiad Noel Gallagher yn synnu rhai o’i ddilynwyr wedi iddo ddweud 10 mlynedd yn ôl fod pobol Cymru yn “hunllef”.

Mewn cyfweliad â Russel Brand ar MTV yn 2006, fe ddywedodd gitarydd Oasis am bobol Cymru – “Mae’r rhai ‘dych chi’n cwrdd yn Llundain yn iawn, ond mae’r rhai go iawn yn hunllef. I ddechrau, ‘dych chi ddim yn medru deall gair maen nhw’n ddweud.”

David Bowie

Mae trefnwyr yr ŵyl yn rhagweld mai uchafbwynt arall fydd perfformiad arbennig o ganeuon David Bowie gan y cyfansoddwr preswyl Joe Duddell wedi iddo gydweithio â cherddorfa siambr.

“Dyma’r bumed flwyddyn ac mae’n cadw i wella a gwella,” meddai Gareth Cooper, sylfaenydd yr ŵyl.

“Mae’r don gyntaf o artistiaid a DJ’s yn well nag erioed ac mae digon syrpreisys i ddod.”

“Mae gennym lawer i’w gyhoeddi o ran ochr y diwylliant, celfyddydau a bwyd yr ŵyl. Bydd y cyfan yn cael eu datgelu cyn hir, a dw i’n siŵr mai 2016 fydd y flwyddyn orau eto.”

Artistiaid eraill

Artistiaid eraill sydd wedi eu cadarnhau yw Aurora, Blossoms, C Duncan, Django Django, Echo & The Bunnymen, Frances, Gwenno, JP Cooper, Lawrence Taylor, Lucy Rose, NGOD, Oh Wonder, Oscar, Roots Manuva, Roisin Murphy ac The Amazons.

Mae’r DJs yn cynnwys  Andrew Weatherall a Sean Johnston yn cyflwyno A Love from Outer Space; 6 Music funk and soul maestro Craig Charles; Fleetmac Wood, Joy Orbison, Kate Simko & The London Electronic Orchestra, Optimo (Until the Music Stops); Smooth Sailing yn cyflwyno Kaftan Discotheque a The 2 Bears.

 

Bydd Gŵyl Rhif 6 yn cael ei chynnal rhwng 1-4 Medi, 2016