Mae pwyllgor o Aelodau Seneddol wedi argymell na ddylai bwrdd rheoli’r BBC gynnwys ymddiriedolwr Cymreig o hyn ymlaen.

Ar hyn o bryd mae un aelod o Ymddiriedolaeth y BBC, Elan Closs Stephens, yno fel cynrychiolydd ar gyfer Cymru.

Ond fel rhan o newidiadau i’r gorfforaeth, mae’r ASau wedi argymell strwythur rheoli newydd fyddai’n golygu na fyddai lle penodol ar gyfer cynrychiolwyr rhanbarthol.

Mae’n debyg bod y cynlluniau hyn wedi cythruddo rhai o fewn y BBC, gydag un ffynhonnell fewnol yn cael ei ddyfynnu gan BBC Wales yn dweud bod y cynlluniau’n edrych fel ‘cam yn ôl’.

‘Gormod o ryddid’

Yn eu hadroddiad ar Adolygu Siarter y BBC, dywedodd y pwyllgor dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon na ddylai Cymru gael ‘cyfarwyddwr penodol’ o dan y strwythur newydd.

Yn hytrach fe fyddai’r Ymddiriedolaeth yn cael ei ddiddymu, gyda bwrdd o gyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol yn cael eu penodi.

Fe ddywedon nhw hefyd bod rheolwr-gyfarwyddwr y BBC Tony Hall mwy neu lai “yn atebol i neb” ac yn cael gormod o ryddid i weithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod yn cefnogi’r argymhelliad i warchod annibyniaeth y gorfforaeth a chreu siarter oedd yn para 11 neu 12 mlynedd.

“Fel y pwyllgor, rydyn ni’n credu y dylai’r BBC gael ei reoleiddio’n allanol. Rydyn ni’n credu y byddai bwrdd unedol yn dda i’r BBC ac yn cryfhau atebolrwydd,” meddai’r llefarydd.

Colli dylanwad?

Dywedodd ffynhonnell BBC Wales fodd bynnag eu bod yn pryderu am eu dylanwad os na fyddai llais Cymreig ar y bwrdd unedol newydd.

“Mae mwy neu lai pob datblygiad mawr o fewn darlledu yng Nghymru dros y 50 mlynedd diwethaf ddim ond wedi digwydd oherwydd bod gennym ni rywun ar fwrdd uchaf y BBC yn brwydro dros ddiddordebau’n gwlad a dweud hi fel y mae,” meddai.

“Dyw’r cynlluniau hyn ddim wedi cael eu hystyried yn iawn, ac o’r herwydd rydyn ni mewn peryg o gamu am yn ôl.”

Angen ‘gwarchod buddiannau Cymru’

Wrth ymateb i argymhellion y pwyllgor dethol heddiw, dywedodd Elan Closs Stephens mai dim ond un adroddiad oedd hwn a’i bod hi’n aros i weld adroddiad annibynnol Syr David Clement i’r ffordd mae’r BBC yn cael ei reoli.

“Un pwyllgor ydi hwn … ond dw i yn cytuno gyda’r pwyllgor, fel aelod o’r ymddiriedolaeth, bod angen trefn wahanol o reoli’r BBC,” meddai ar Radio Cymru.

Dywedodd y byddai hi o blaid bwrdd rheoli “llai, ac efo sgiliau rheoli cryf, oherwydd mae hwn yn gorff sy’n edrych ar ôl £3 biliwn o arian cyhoeddus”.

Ychwanegodd ei bod hi’n “gam positif” bod y pwyllgor o ASau wedi argymell y dylai bod gan bob aelod o’r bwrdd newydd fod â dyletswydd dros wledydd a rhanbarthau Prydain.

“Mae’n rhaid i beth bynnag fydd y drefn newydd warchod buddiannau Cymru,” meddai Elan Closs Stephens.