Mae cylchgrawn Golwg ar ddeall y bydd cyfrifoldeb am ddysgu Cymraeg i oedolion yn cael eu rhannu rhwng rhagor o gyrff tros y tair blynedd nesaf.

Fe fydd y penderfyniad – sydd i’w gymeradwyo gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol – yn golygu y bydd rhai o’r gweithredwyr mwyaf yn y maes ar hyn o bryd yn gwneud llai.

Mae Golwg ar ddeall y bydd newid i gyfrifoldebau Prifysgol Bangor, Abertawe ac Aberystwyth, gyda’r gwasanaeth yn sir Benfro yn mynd o dan ofal y cyngor sir lleol.

‘Disgwyl penderfyniad’

Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Bangor yn gyfrifol am faes Cymraeg i oedolion ar draws gogledd Cymru. Fe wnaethon nhw agor canolfan newydd yn Yr Wyddgrug y llynedd, ond mae’n ymddangos mae partneriaeth rhwng Coleg Cambria a Popeth Cymraeg fydd yn cael y gwaith yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Does dim gwybodaeth eto am effaith hyn ar swyddi, ac mae disgwyl i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gadarnhau’r penderfyniad.

Yn ôl Hannah Thomas, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu’r Ganolfan Genedlaethol: “Unwaith y bydd y darparwyr wedi cadarnhau eu bod yn derbyn y gwahoddiad, byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach. Disgwylir i hyn ddigwydd yn fuan.”

Mwy yn rhifyn yr wythnos o Golwg