Mae rhai o gefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cwestiynu tegwch y system ddosbarthu tocynnau ar gyfer Ewro 2016 wedi iddi ddod i’r amlwg bod llawer o ddilynwyr selog heb lwyddo i gael rhai.

Fe roddodd UEFA wybod i gefnogwyr Cymru mewn e-byst ddydd Mawrth a oedden nhw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio, a hynny ar ôl i 52,000 o bobl geisio am docynnau.

Dim ond cyfanswm o 21,000 yr oedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ei gael gan UEFA i ddosbarthu ymysg ei chefnogwyr ar gyfer y gemau yn erbyn Slofacia, Lloegr a Rwsia.

Roedden nhw wedi defnyddio system ‘bwyntiau’ er mwyn ceisio gwobrwyo’r cefnogwyr mwyaf ffyddlon oedd wedi bod yn gwylio gemau yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Ond mae rhai yn gandryll ar ôl methu â chael tocynnau er eu bod wedi mynychu sawl gêm, tra bod eraill oedd wedi bod i fawr ddim wedi bod yn llwyddiannus.

‘System boncyrs’

Dywedodd un ymgeisydd aflwyddiannus, oedd ddim am gael ei enwi, ei fod yn gandryll ar ôl clywed am sawl un oedd wedi bod i lawer llai o gemau nag o oedd wedi cael tocynnau.

“Fe wnaeth tri ohonom ni wneud cais drwy Follow Your Team – y tri oedd â record llawer gwell, wedi bod i saith neu wyth o’r gemau rhagbrofol – a wnaethon ni gael dim byd,” meddai wrth golwg360.

“Roedd tri arall yn ein grŵp oedd ddim hyd yn oed wedi bod i bob gêm gartref wedi mynd drwy’r route tocynnau unigol, ac wedi’u cael nhw i gyd.

“Mae’n amlwg bod rhywbeth yn bod yn y system. Dw i ‘di bod yn mynd ers blynyddoedd, a ddim di cael dim byd. Mae o jyst yn boncyrs!”

Categorïau aneglur?

Roedd modd i gefnogwyr ymgeisio am docynnau ‘Follow Your Team’, oedd yn sicrhau y bydden nhw’n cael mynd i bob gêm Cymru yn y gystadleuaeth, neu wneud ceisiadau am gemau unigol.

Ond mae’n debyg bod cyn lleied â 2,000 o docynnau categori ‘Follow Your Team’ wedi bod ar gael ar gyfer cefnogwyr Cymru i bob gêm, o’i gymharu â hyd at 7,000 o docynnau unigol.

“Yn amlwg doedd dim esboniad llawn bod siawns well o gael tocynnau os oeddech chi’n dewis gemau fesul un nag wrth fynd am y cynllun arall,” ychwanegodd y cefnogwr anniddig.

“Dylen ni fod wedi cael rhywbeth allan o’r ddêl. Rŵan dydyn ni heb gael tocynnau, tra bod eraill sydd efallai wedi ymuno eleni wedi cael rhai. Dyna sydd yn fy ngyrru i’n flin braidd.”

‘Gwersi i’w dysgu’

Roedd Tommie Collins, cyfrannwr Pod Pêl-droed Golwg360 a dilynwr brwd o’r tîm cenedlaethol, hefyd yn siomedig bod rhai cefnogwyr ffyddlon wedi methu â chael tocynnau.

“Dw i ddim yn gweld bai ar y bobl wnaeth drio – ond UEFA oedd o de, be’ ti’n ddisgwyl,” meddai.

“Y rheswm [am y drafferth] oedd bod ‘na ddim digon o docynnau Follow Your Team, ond bod rhai wnaeth drio am gemau yma ac acw wedi bod yn llwyddiannus.

“Ond chwarae teg i’r bobl sy’n gweithio yna [swyddfa docynnau CBDC], maen nhw’n gwneud gwaith gwych.

“Ddylai bod mwy o bwyntiau wedi cael eu rhoi i gemau oddi cartref ella. Mi fydd yr FAW yn dysgu ohono fo dw i’n siŵr.”

Trafferthion cardiau

Cafodd ceisiadau eraill, fel Rhys Edwards o Dredegar, eu gwrthod oherwydd problemau gyda’u cardiau credyd.

“Roeddwn i [yn un o’r 800 o gefnogwyr oedd] wedi mynd i Bosnia, felly roeddwn i’n gwybod mod gen i ddigon o bwyntiau,” meddai wrth golwg360.

“Ond roedd rhaid i mi ganslo fy ngherdyn achos bod rhywun wedi ceisio’i ddefnyddio’n dwyllodrus, ac roedd hi’n rhy hwyr wedyn i newid fy manylion cerdyn ar y cais.

“Fe wnes i gysylltu â’r Gymdeithas Bêl-droed, y grŵp cefnogwyr, cwmni’r cerdyn, ond doedd neb yn gallu gwneud unrhyw beth.”

Ymateb

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn datganiad nad oedd UEFA wedi rhoi gwybod iddyn nhw pam bod ceisiadau unigol wedi cael eu gwrthod.

Ond fe gyfaddefodd CBDC y gallai unigolion fod wedi bod â siawns well o gael tocynnau petawn nhw wedi ceisio am docynnau mewn categorïau uwch, oedd yn costio mwy, gan fod llai o gystadleuaeth amdanynt.

Dyw UEFA heb ymateb i’r pryderon sydd wedi codi ynglŷn â thocynnau cefnogwyr Cymru eto.

Ond ar ôl i ffrae debyg godi gyda chefnogwyr Gogledd Iwerddon mae’r awdurdodau sydd yn gyfrifol am drefnu’r gystadleuaeth wedi rhoi 1,000 o docynnau ychwanegol i’r cefnogwyr hynny ar gyfer un o’u gemau.