Mae tri dyn wedi cael eu carcharu ar ôl helpu bachgen 17 oed o Gaerdydd i deithio i Syria i ymuno ag IS.

Fe gafwyd Kristian Brekke, Adeel Ulhaq a Forhad Rahman yn euog yn llys yr Old Bailey heddiw o helpu Aseel Muthana i ddilyn yn ôl traed ei frawd ac ymuno â’r brawychwyr.

Cafodd Kristian Brekke, sydd hefyd o Gaerdydd, ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner am roi cymorth i Aseel Muthana, gan gynnwys ei helpu i brynu offer a gadael iddo ddefnyddio’i gyfrifiadur.

Cafodd Adeel Ulhaq a Forhad Rahman eu dedfrydu i bum mlynedd yr un, gydag Adeel Ulhaq yn cael 12 mis yn ychwanegol am ariannu brawychiaeth.

“Roedd y gweithredoedd hyn o baratoi yn rhai clir a phenderfynol ac maen nhw’n awgrymu i mi eich bod chi yn sicr, Rahman ac Ulhaq, yn aros i roi help llaw i unrhyw un oedd yn barod i deithio i Syria,” meddai’r Barnwr Rebecca Poulet QC.

Cymorth gan Brekke

Fe glywodd llys yr Old Bailey mai wedi troi at Fwslemiaeth yr oedd Kristen Brekke ac roedd wedi dod i adnabod Aseel Muthana pan oedd y ddau ohonyn nhw’n gweithio mewn parlwr hufen-iâ yng Nghaerdydd.

Roedd Kristen Brekke o dan gymaint o bwysau yn ystod yr achos fel ei fod wedi dechrau colli gwallt, ac roedd ei obeithion o ddod yn radiolegydd mwy neu lai ar ben.

Fe welodd y llys fideo o’r ddau gyda gwn ffug ar fryn uwchben y brifddinas ac, yn ôl yr erlyniad, roedd wedi helpu Aseel Muthana i gael dillad ac wedi gadael iddo ddefnyddio’i gyfrifiadur.

Dadl Kristen Brekke oedd ei fod wedi prynu pethau oherwydd ei fod yn paratoi am daith wersylla i Fannau Brycheiniog.

Y cefndir

Roedd Aseel Muthana, a oedd yn 17 oed ar y pryd, wedi gadael am Syria bron union ddwy flynedd yn ôl, ym mis Chwefror 2014, a dyw e ddim wedi dod yn ôl.

Roedd yn dilyn ei frawd, Nasser Muthana, a oedd wedi mynd i Syria gyda phedwar dyn ifanc arall o Gaerdydd ychydig fisoedd ynghynt.

Fe glywodd y llys fod Adeel Ulhaq a Forhad Rahman yn rhan o griw o ffrindiau a oedd yn cefnogi mudiad jihadaidd IS ac mai Kristen Brekke oedd yr unig un o’r tri i beidio â mynegi awydd i fynd i Syria hefyd.