Adam Price oedd un o'r rhai fu'n trafod ar ran Plaid Cymru, yn ôl adroddiadau
Mae tair o bleidiau Cymru wedi cyfaddef eu bod wedi cynnal trafodaethau anffurfiol er mwyn ceisio ennill seddi ychwanegol yn etholiadau’r Cynulliad.

Roedd Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion wedi dechrau trafod y posibilrwydd o geisio dod at ei gilydd er mwyn atal Llafur rhag ffurfio llywodraeth arall ar ôl yr etholiad.

Byddai hynny wedi golygu bod y pleidiau’n penderfynu peidio â chynnig ymgeiswyr mewn rhai ardaloedd, er mwyn gwella siawns y lleill o ennill seddi.

Roedd y pleidiau’n credu y gallen nhw fod wedi ennill hyd at 22 sedd rhyngddyn nhw, yn ôl ITV, ond fe ddaeth y trafodaethau i ben cyn i arweinwyr y pleidiau ymuno â’r bargeinio.

‘Y fathemateg yno’

Plaid Cymru oedd wedi cyflwyno’r syniad mae’n debyg, gyda’r Gwyrddion hefyd yn awyddus i fwrw ymlaen â’r cynlluniau ond y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud y penderfyniad i dynnu nôl.

Fe gadarnhaodd y tair plaid bod y trafodaethau wedi digwydd, gyda llefarydd ar ran Plaid Cymru yn dweud eu bod wedi cynnig y syniad “er mwyn gweld a oedd unrhyw gydweithio rhwng y pleidiau yn bosib”.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol nad oedden nhw’n teimlo mai cytundeb o’r fath rhwng y pleidiau oedd y ffordd orau i fynd ati ar gyfer yr etholiad.

Ychwanegodd arweinydd y Gwyrddion Alice Hooker-Stroud bod y “fathemateg etholiadol yno, ond bod yr ewyllys gwleidyddol ddim”.

Cafodd y trafodaethau eu beirniadu gan y Ceidwadwyr a UKIP, gyda’r Torïaid yn dweud bod y cynlluniau yn dangos “diffyg uchelgais a hyder” gan Blaid Cymru yn eu siawns o ennill seddi ym mis Mai.