Mae un o barciau cenedlaethol Cymru wedi awgrymu y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiswyddo staff fel rhan o’u hymateb i doriadau yn eu cyllideb.

Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, fe fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn wynebu gostyngiad o 5% yn eu grant gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yn rhaid iddyn nhw felly wneud arbedion o £423,000.

Dim ailagor Canolfan Groeso

Mewn cyfarfod ym Mhlas Tan y Bwlch ym Maentwrog heddiw, fe gymeradwyodd aelodau’r Awdurdod gyfres o gamau i fynd i’r afael â’r toriadau.

Yn eu plith, fe wnaethon nhw gytuno i gyflwyno diswyddiadau gorfodol, dileu swyddi gwag, derbyn ymddeoliadau cynnar a diswyddiadau gwirfoddol, a pheidio ag ailagor Canolfan Groeso Dolgellau.

Yn ogystal, fe fyddan nhw’n codi incwm o ffioedd ar gyngor cyn gwneud ceisiadau cynllunio, cynyddu incwm Plas Tan y Bwlch drwy wasanaethau a meysydd parcio, ynghyd â lleihau gwariant ar brosiectau archeoleg, adeiladau rhestredig, bioamrywiaeth, coedlannau ac amaethyddiaeth.

‘Anodd eu cyflawni’

“Mae’r gyllideb ddrafft yr ydym wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn nodi 5% o doriad ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac fel Awdurdod bychan sy’n denu grant craidd o £5miliwn, mae’r toriadau hyn yn anodd iawn i’w cyflawni,” meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Rydym eisoes wedi gorfod edrych ar bob maes o’n gwaith a gwneud nifer o benderfyniadau anodd iawn,” meddai.

“Bellach fodd bynnag, rhaid i ni ystyried lleihau lefel ein gwasanaeth sydd yn ei dro, yn anorfod yn golygu y bydd angen diswyddo mwy o staff.”

Toriadau blaenorol

Mae’r awdurdod eisoes wedi wynebu toriad o 14% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gan olygu arbedion o hyd at £872,000 yn eu gwasanaethau.

Yn wahanol i’r sefyllfa yng Nghymru, mae’r Parciau Cenedlaethol yn Lloegr wedi derbyn setliad sy’n gynnydd o 1.72%, gyda’u cyllidebau wedi eu gwarchod am y pedair blynedd nesaf.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r gyllideb derfynol ar gyfer 2016 erbyn 1 Mawrth.