Mae Plaid Cymru wedi galw ar feddygon iau sy’n streicio yn Lloegr heddiw, i ddod i Gymru.

Dywedodd Elin Jones, llefarydd iechyd y blaid, y gallai’r meddygon fod yn rhan o’i chynllun i recriwtio mil o feddygon ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Mae meddygon iau yn Lloegr ar eu hail streic mewn anghydfod gyda’r Llywodraeth ynglŷn â chytundebau newydd, a fyddai’n golygu llai o dal i feddygon iau am weithio ar benwythnosau ac oriau anghymdeithasol.

Mae arolwg newydd a gynhaliwyd cyn y streic yn awgrymu y gallai naw o bob 10 meddyg iau ystyried ymddiswyddo os ydy’r cytundeb newydd yn cael ei orfodi arnyn nhw.

Dydy’r newidiadau gan Lywodraeth y DU ddim yn effeithio Cymru, ac felly dydy meddygon yng Nghymru ddim ar streic.

‘Lle i chi yng Nghymru’

“Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i danseilio meddygon iau yn enghraifft arall o fethiant y llywodraeth Geidwadol i werthfawrogi ein gwasanaethau cyhoeddus,” meddai Elin Jones.

“I’r nifer o feddygon iau yn Lloegr sydd wedi dweud eu bod nhw’n ystyried rhoi’r gorau i’w proffesiwn am y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi eu trin, rwy’n dweud bod lle i chi yng Nghymru.”

Beirniadodd “cofnod gwael” y llywodraeth Lafur o recriwtio a hyfforddi meddygon, sydd, yn ei barn hi, “wedi arwain at argyfwng recriwtio meddygon” yng Nghymru.

“Bydd llywodraeth Plaid Cymru, os caiff ei hethol ym mis Mai, yn cryfhau ein gwasanaethau iechyd, yn parchu staff ein Gwasanaeth Iechyd, ac yn rhoi cleifion y gofal maen nhw’n eu haeddu.”