Mae dyn wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron bore ma.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae’r ffordd yn dal i fod ynghau yn dilyn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd am tua 8.13 bore dydd Mercher ger pentref Olmarch, Llangybi.

Roedd y car Audi wedi taro yn erbyn coeden a galwyd y Gwasanaeth Tân a’r Ambiwlans Awyr i’r safle.

Does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.