Mae arweinwyr undeb gyrwyr trenau wedi annog eu haelodau i dderbyn cytundeb er mwyn dod ag anghydfod rhyngddyn nhw a Threnau Arriva Cymru i ben.

Roedd gyrwyr wedi bod yn anhapus â chynigion y cwmni ynglŷn â thâl ac amodau, ac wedi bygwth cynnal streic.

Ond fe gyhoeddodd Aslef bod gweithredu diwydiannol wedi cael ei ohirio nes y bydd pleidlais ymysg aelodau wedi cael ei chynnal.

Mae pwyllgor gweithredol yr undeb wedi argymell derbyn pecyn diwygiedig sydd wedi cael ei gynnig gan y cwmni.

Mae’r gyrwyr wedi streicio yn y gorffennol dros dâl ac amodau, gan gynnwys shifftiau hirach.