Cymdeithas y seiri rhyddion yn ne Cymru
Mae anghysonderau wedi cael eu hamlygu ym mholisïau rhai o gyrff cyhoeddus Cymru wrth drin a chymdeithas y seiri rhyddion.

Yn dilyn ymchwiliad gan raglen materion cyfoes S4C Y Byd ar Bedwar, mae cyn-ysgrifennydd Cyntaf Cymru Alun Michael yn galw am gysoni polisïau ynglŷn â datgan aelodaeth o’r gymdeithas ymhlith Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, cynghorwyr lleol a heddweision.

Daeth ei sylwadau yn sgil cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth gan newyddiadurwyr Y Byd ar Bedwar yn gofyn am bolisïau datgan aelodaeth o’r seiri rhyddion gan gyrff cyhoeddus ar draws y wlad.

Mae’r nifer sydd wedi datgan aelodaeth o’r clwb yn isel, gyda dim ond 25 o gynghorwyr sir Cymru, 11 o heddweision ac un Aelod Cynulliad wedi gwneud hynny.

Dyw hi ddim yn ofynnol i Aelodau Seneddol ddatgan aelodaeth o’r seiri rhyddion er bod disgwyl i Aelodau Cynulliad wneud.

Ac mae’r sefyllfa i aelodau etholedig awdurdodau lleol hefyd yn amrywio.

‘Amwys’

Yn ôl Alun Michael, mae cwestiynau i’w gofyn am eiriad rheolau nifer o gynghorau Cymru: “Mae nifer o’r rhain wedi eu geirio yn amwys. Mae son gan rai bod angen datgan aelodaeth o glwb preifat sy’n weithredol o fewn i’r awdurdod – y cwestiwn yw, beth mae gweithredol yn ei olygu?

“Petai cwestiwn syml yn cael ei ofyn, ‘ydych chi’n aelod ai peidio?’ a bod yr ateb ar gael i’r cyhoedd, byddai pethau’n llawer haws.”

Heddluoedd

Does dim disgwyl i staff heddluoedd Gwent na Dyfed-Powys ddweud a ydyn nhw’n seiri rhyddion ai peidio. Ymysg heddlu Gogledd Cymru a heddlu’r De, mae cynllun datgan gwirfoddol yn cael ei weithredu.

Yn ôl Alun Michael, sydd bellach yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru: “Fysa’n well i ni gael yr un safon mewn pob cyngor lleol, yn yr heddlu, yn awdurdodau iechyd ac yn y blaen. Wedyn, mae pawb yn cael eu trin yr un ffordd.”

‘Dim i’w guddio’

Yn ôl prif feistr y seiri rhyddion yn ne Cymru, does dim rheswm i’w aelodau orfod datgan hynny’n gyhoeddus.

“Rwy’i ac aelodau eraill y seiri rhyddion yn ne Cymru yn hapus i ddweud wrth bobl ein bod yn aelodau ac i ddathlu hynny,” meddai Gareth Jones, oedd tan yn ddiweddar yn was sifil gyda Llywodraeth Cymru.

“Does dim byd o gwbl gyda ni i guddio. Ond dwi’n credu bod y ffaith bod pobl yn ceisio’n gorfodi i ddatgan ein seiryddiaeth yn eithaf sarhaus.”
Bydd Y Byd ar Bedwar yn cael ei darlledu heno (nos Fawrth, 9 Chwefror) am 9.30yh ar S4C.