Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i gyfres o ddigwyddiadau amheus yn ardaloedd Pentwyn a Phontprennau yng Nghaerdydd.

Ers 26 Ionawr, mae’r heddlu wedi derbyn pum adroddiad bod dyn yn ymddwyn yn amheus.

Fe fu un o’r digwyddiadau hyn ym Mhentwyn a dau ym Mhontprennau.

Cafwyd adroddiadau am y digwyddiad diweddaraf yn Heol Pontprennau ar ôl i ddyn mewn Range Rover du gynnig lifft i ddynes a’i phlentyn ifanc tua 12.30yp ddydd Llun, 8 Chwefror.  Fe wrthododd hi ac fe yrrodd y dyn i ffwrdd.

Dywedodd yr Arolygydd Paul Arkontopoulos bod rhai o’r disgrifiadau o’r dyn a’r car yn debyg ond bod rhai gwahaniaethau hefyd ac nad oedden nhw’n sicr ar hyn o bryd os mai’r un dyn oedd yn gyfrifol.

“Mae ymchwiliadau’n parhau ar hyn o bryd i’r digwyddiadau ac mae swyddogion wedi cynyddu eu patrol ger ysgolion, ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol, er mwyn helpu i sicrhau’r gymuned leol.

“Rydym yn gofyn i bobl fod yn wyliadwrus ac i adrodd am unrhyw ymddygiad amheus  drwy ffonio 101 neu 999 mewn achosion brys.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600044344.