Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder nad oes digon wedi ei gyflawni ers cyflwyno Mesur y Gymraeg bum mlynedd yn ôl.

Fe ddywedon nhw eu bod yn dal i aros i glywed pa bryd y bydd cwmnïau ffôn a thelathrebu yn dod yn rhan o’r Safonau Iaith.

“Mae technoleg yn rhan hanfodol o’n bywydau bellach, felly mae cwmnïau o’r fath yn hollbwysig o ran cynyddu defnydd o’r Gymraeg,” meddai Manon Elin, Cadeirydd Grŵp Hawl y Gymdeithas.

Fe ddywedodd y dylai amserlen fod wedi ei rhyddhau erbyn diwedd 2015, ac “mae’r diffyg gweithredu yma o du’r Comisiynydd a’r Llywodraeth yn amddifadu pobol o’u hawliau iaith ac yn colli cyfle euraidd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.”

‘Gweithredu’n gynt’

Mae’r mudiad iaith wedi galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i weithredu’n gynt i gryfhau hawliau iaith.

“A hithau’n union bum blynedd ers i’r Mesur ddod i rym , mae’n syndod cyn lleied sydd wedi ei gyflawni,” ychwanegodd Manon Elin.

Mae’r ail set o safonau yn cael eu cymeradwyo yn y Senedd heddiw, gan olygu y bydd 32 o gyrff yn atebol i’r Safonau yn ystod y misoedd nesaf –S4C, y Llyfrgell Genedlaethol, Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, a’r Ardd Fotaneg yn eu plith.

Cyn hynny, dim ond un set oedd wedi eu cymeradwyo – a hynny ym mis Mawrth 2015.

‘Diwygio’r mesur’

“Mae’n annerbyniol nad ydy’r awdurdodau sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith wedi gweithredu’r ddeddfwriaeth yn llawn,” meddai Manon Elin.

Fe ddywedodd y byddai’n cymryd o leiaf tair pleidlais arall “nes bod gobaith y bydd cwmnïau ffôn a thelathrebu yn gorfod darparu gwasanaethau Cymraeg.”

Mae’r mudiad hefyd yn galw am ddiwygio’r mesur.

“Mae angen ehangu ei sgôp er mwyn cynnwys yr holl sector preifat. Mae ein hymchwil diweddar i’r ddarpariaeth Gymraeg gan archfarchnadoedd yn dangos yn glir na fydd mwyafrif y cyrff yn y sector preifat yn darparu gwasanaethau Cymraeg o’u gwirfodd heb orfodaeth.”