Ken Skates
Mae deddf i wella sut y caiff amgylchedd hanesyddol unigryw’r genedl ei ddiogelu wedi cael ei chymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Pan ddaw’n gyfraith, mae’n golygu mai Cymru fyddai’r wlad gyntaf yn y DU i roi cofnodion am yr amgylchedd hanesyddol ar gofnod statudol.

Fel rhan o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fe fydd gan weinidogion yr hawl i orfodi perchnogion sy’n difrodi henebion eu hatgyweirio.

Bydd y cofnodion hefyd yn darparu mynediad at restr newydd o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru, ynghyd ag atal adeiladau hanesyddol rhag adfeilio.

‘Stori ein gorffennol’

Daw’r alwad am y mesur yn dilyn pryder bod mwy na 100 o achosion o ddifrodi wedi bod i safleoedd hanesyddol rhwng 2006 a 2012.

Wrth groesawu’r ffaith fod y Bil wedi’i basio gan y Cynulliad, dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn golygu mwy na’n henebion enwog a’n adeiladau hanesyddol amlwg; mae hefyd yn cynnwys parciau a gerddi hanesyddol ac, wrth gwrs, enwau ein lleoedd hanesyddol.

“Caiff cofrestrau statudol eu creu yn awr ar gyfer y ddwy elfen bwysig hyn.

“Ein treftadaeth yw stori ein gorffennol – ac mae’n stori wych; daw yn ei sgil fuddion cymdeithasol a diwylliannol. Hefyd, mae’n gwneud cyfraniad sylweddol at ein heconomi, ar ffurf twristiaeth. Mae’n rhywbeth sy’n bwysig iawn i lawer o bobl – mae difrodi heneb neu adael i adeilad rhestredig fynd a’i ben iddo yn gwneud pobl yn ddig ac yn ofidus.

“Rwy’n falch iawn ein bod, drwy basio’r Bil, yn mynd i allu diogelu ein hamgylchedd hanesyddol yn well. Hefyd, byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’i bwysigrwydd ac yn cefnogi’r gwaith o’i reoli mewn ffordd gynaliadwy.”

Bydd y Bil yn gwneud y canlynol hefyd:

  • Creu panel annibynnol i roi cyngor arbenigol i Weinidogion Cymru ar bolisi a strategaeth;
  • Cyflwyno proses ymgynghori ffurfiol gyda pherchnogion  adeiladau neu henebion cyn i benderfyniad i’w diogelu gael ei wneud;
  • Ehangu’r diffiniad o beth y gellir ei ddiogelu fel heneb i gynnwys rhai meysydd brwydrau ac aneddiadau cynhanesiol.