Y Preifat Cheryl James
Mae cwest i farwolaeth milwr ifanc o Langollen a fu farw ym Marics Deepcut mwy nag 20 mlynedd yn ôl wedi clywed heddiw ei bod hi’n “daer” i adael y fyddin ychydig ddyddiau cyn ei marwolaeth.

Wrth gyflwyno tystiolaeth yn yr ail gwest i farwolaeth y Preifat Cheryl James, fe esboniodd ffrind bore oes i’r milwr, Lydia Baksh, ei bod wedi teimlo’n “bryderus” ar ôl siarad â hi ar y ffôn wythnos cyn ei marwolaeth.

Yn ôl Lydia Baksh, roedd y ferch 18 oed wedi dechrau “casáu” bod yn y fyddin.

“Roedd hi’n cael ei cheryddu drwy’r amser ac yn cael ei rhoi ar ddyletswydd gwarchod dipyn, a doedd hi ddim yn medru godde’ hynny. Roedd hi jest eisiau mynd yn AWOL (Absent Without Official Leave.)”

Darganfuwyd y Preifat Cheryl James gyda bwled yn ei phen ym Marics Deepcut yn Surrey ym mis Tachwedd 1995.

‘Ceisio delio’

Fe esboniodd Lydia Baksh fod Cheryl James wedi hunan-niweidio pan oedd yn ei harddegau, ond nad oedd yn “ddim byd difrifol.”

“Roedd hi jest yn ceisio delio â’r hyn roedd hi’n mynd drwyddo,” meddai.

Mae’r cwest eisoes wedi clywed fod Cheryl James, a gafodd ei mabwysiadu, wedi dioddef achos honedig o dreisio gan ddau fachgen pan oedd yn 14 oed.

Fe gymerodd gorddos o paracetamol yn 1992 yn dilyn hunanladdiad ei chefnder 18 oed.

Mewn datganiad i’r heddlu, fe ddywedodd ei ffrind, Lydia Baksh, ei bod yn “sicr” bod Cheryl James wedi lladd ei hun.

Bellach, fe ddywedodd wrth y llys na allai fod yn “sicr” am hynny.

‘Gyrfa gyffrous’

 

Fe glywodd y cwest hefyd fel yr oedd Cheryl James wedi teimlo’n gyffrous am ddechrau ar yrfa gyda’r fyddin.

Darllenwyd darnau o’i chais i ymrestru yn ystod y llys. Dywedodd y byddai’n rhoi “golygon gyrfaol dda” iddi, ynghyd â “chyfle i deithio” ac fel yr ystyriai ei gyrfa fel “swydd gyffrous.”

Fe ddywedodd Lydia Baksh nad oedd Cheryl James wedi bod yn hapus gartref “bob amser”, ac fe ofynnwyd iddi am rywbeth yr oedd hi wedi cyfeirio ato yn ei datganiad i’r heddlu, sef adeg pan ddaeth Cheryl James a’i brawd i’w chartref hi heb esgidiau yn dilyn dadl.

Awgrymwyd gan gynrychiolydd o deulu Cheryl James nad oedd hyn wedi digwydd, ond fe ddywedodd Lydia Baksh nad oedd ganddi reswm i’w ffugio.

Mae’r cwest i farwolaeth y Preifat Cheryl James yn parhau.

Dyma’r ail gwest, ac mae’n archwilio tystiolaeth sy’n awgrymu y gallai fod wedi ei hecsbloetio’n rhywiol gan uwch rengoedd ychydig cyn ei marwolaeth.

Ddoe bu tad Cheryl James, Des James, 66, yn rhoi tystiolaeth. Mae’r teulu wedi galw am “ymchwiliad trylwyr” i’w marwolaeth ar ôl i dystiolaeth fforensig newydd awgrymu nad oedd hi wedi lladd ei hun.