Fe fydd prifysgolion Cymru dan ‘anfantais ddifrifol’ wrth gystadlu â sefydliadau Ewropeaidd os yw Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â chynlluniau i dorri eu cyllid.

Yn ôl Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru fydd yn cael ei phasio heddiw, fe fydd yn rhaid i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) wneud y tro â £41m yn llai dros y flwyddyn 2016/17, sy’n doriad o 32%.

Ond yn ôl Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, byddai hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i brifysgolion Cymru fanteisio ar raglenni Ewropeaidd fel Horizon2020 ac Erasmus.

Mae Horizon2020 yn gynllun buddsoddi mewn ymchwil oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd sydd werth €80 biliwn rhwng 2014 a 2020, ac mae Erasmus yn rhaglen sydd yn hwyluso cyfnewid myfyrwyr.

 ‘Goblygiadau difrifol’

Yn ôl yr ASE, sydd yn aelod o bwyllgor Diwylliant ac Addysg Senedd Ewrop, roedd y toriadau gan Lywodraeth Cymru yn “ormodol” ac yn dangos “diffyg gweledigaeth”.

“Bydd gan [y toriadau] oblygiadau difrifol yn gyffredinol, ond rwy’n arbennig o bryderus ynglŷn ag oblygiadau ar lefel Ewropeaidd,” meddai Jill Evans.

“Rhaid i addysg uwch Cymru gystadlu gyda sefydliadau academaidd ar draws Ewrop sydd â llawer mwy o adnoddau.

“Bydd y lefel hyn o doriad yn eu rhoi dan anfantais gystadleuol, a does dim modd y gallai’r posibilrwydd o ariannu Ewropeaidd gymryd lle cefnogaeth gan y wladwriaeth.”