Fe ddaeth tua 150 o bobol ynghyd neithiwr yn Galeri Caernarfon fel rhan o gyfarfod Sgrech Gwynedd i drafod bygythiadau posibl i’r celfyddydau yng Ngwynedd.

Mae mwy na 830 wedi arwyddo deiseb i ddwyn perswâd ar gynghorwyr Gwynedd i beidio â chyflwyno toriadau i’r celfyddydau.

“Roedd o’n gyfarfod cyhoeddus i edrych ar y ffordd orau o gyflwyno gwerth y celfyddydau i’r cynghorwyr,” esboniodd Steffan Thomas, Cyfarwyddwr Marchnata Galeri Caernarfon.

Esboniodd y bydd tua 12 o gwmnïau yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol pe bai cyllideb y celfyddydau’n cael ei thorri, gan gynnwys cwmnïau theatr, dawns, llenyddol a chanolfannau perfformio.

“Rydan ni isio i gymaint ag sy’n bosibl arwyddo’r ddeiseb er mwyn inni ddangos pwysigrwydd y celfyddydau yng Ngwynedd.”

“Mae ‘na bryder mawr ymysg artistiaid llawrydd, a hefyd yr effaith pellgyrhaeddol. Os na all cwmnïau drama, fel Bara Caws a’r Frân Wen, fforddio i gynhyrchu cymaint o sioeau, bydd llai o arlwy gennym ni a chanolfannau tebyg i’w gynnig i’r cyhoedd.”

‘Lle annifyr’

Fe esboniodd Steffan Thomas fod Sgrech Gwynedd wedi derbyn gwahoddiad i gyfarfod ag Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards.

“Rydan ni’n derbyn fod y Cyngor yn gorfod gwneud toriadau, ac maen nhw mewn lle annifyr, ond ’dyn ni ddim yn teimlo fod y celfyddydau wedi cael lle teilwng yn yr ymgynghoriad cyhoeddus – Her Gwynedd. Roedd yn rhan o’r adran amrywiol ymysg sylw i gau toiledau cyhoeddus.”

Mae disgwyl i’r Cabinet drafod adroddiad ar strategaeth ariannol Cyngor Gwynedd ar 16 Chwefror.

Yna, fe fydd disgwyl i’r 75 o gynghorwyr benderfynu’n derfynol ynglŷn â’r toriadau yn y cyfarfod llawn ar 3 Mawrth.

‘Ystyried ymatebion’

Mae’r cynghorwyr yn ystyried mwy na 2,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, Her Gwynedd, ar hyn o bryd.
“Nid yw’r un ohonom wedi mynd i wasanaeth cyhoeddus er mwyn torri gwasanaethau,” meddai Dyfed Edwards.

“Fodd bynnag, nid yw penderfyniadau’r llywodraeth yn cynnig unrhyw opsiwn arall i ni. Rydw i’n teimlo fod yr argymhellion hyn yn cynnig y datrysiad gorau dan yr amgylchiadau sydd ohoni gan y byddant yn ein galluogi i osgoi gorfod gweithredu’r gwaethaf o’r opsiynau toriadau.

“Rydym yn argymell fod y Cyngor yn cymryd camau i warchod gwasanaethau amrywiol sy’n cynnig cefnogaeth bwysig i gymunedau busnes a chelfyddydau Gwynedd yn ogystal â nifer o wasanaethau sydd wedi’u hadnabod fel rhai hynod o bwysig ar gyfer ardaloedd daearyddol penodol yn y sir,” ychwanegodd.

Fe ychwanegodd fod adborth y cyhoedd yn galw ar y Cyngor i osgoi unrhyw doriadau, “roedd bron i hanner ymatebion yr arolwg cyhoeddus yn nodi y byddai’n well ganddynt pe byddai’r Cyngor yn cynyddu Treth Cyngor o fwy na 3.5% os byddai hynny’n golygu y byddai mwy o’r gwasanaethau yr oeddent yn ei deimlo oedd yn bwysig yn gallu cael eu harbed.”

Sgrech Gwynedd

Sefydlwyd ymgyrch Sgrech Gwynedd yr wythnos ddiwethaf, ac mae’n nodi pedwar pwynt:

1. Mae’r celfyddydau’n dod â phobol o bob oed at ei gilydd gan gyrraedd pawb.
2. Mae gweithgareddau celfyddydol hygyrch ar lawr gwlad yn cael effaith uniongyrchol ar ansawdd bywydau pobol.
3. Mae’r celfyddydau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau.
4. Mae’r celfyddydau’n cyfrannu’n helaeth at economi’r sir drwy gynnig cyflogaeth a chynhyrchu incwm.

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Gwynedd:  “Yn ystod mis Ionawr, bu cynghorwyr Gwynedd yn pwyso a mesur yr holl dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod ymarferiad ‘Her Gwynedd’  gan gynnwys sylwadau a gohebiaeth a gyflwynwyd gan gynrychiolwyr y celfyddydau yng Ngwynedd.

“Fel mae’r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor yn nodi, roedd yna ymdeimlad ymysg nifer o gynghorwyr yn y gweithdai aelodau yma ei fod yn anorfod y byddai rhaid i’r celfyddydau wynebu elfen o doriadau o ystyried y cyd-destun ariannol ehangach sy’n wynebu holl adrannau’r Cyngor, ond roedd pryder yn ogystal y byddai bwrw ymlaen i weithredu’r 3 cynnig penodol sydd yn ymwneud â darparu cefnogaeth uniongyrchol i’r celfyddydau yn eu cyfanrwydd yn cael effaith sylweddol ar y sector.

“Oherwydd hyn, mae adroddiad y Cabinet yn argymell y dylid felly hepgor 2 o’r 3 cynllun o’r rhestr toriadau a pheidio â bwrw ymlaen gyda’r cynnig i ddileu’r Uned Celfyddydau Cymunedol na’r cynnig i ddileu’r grantiau strategol i’r celfyddydau yn eu cyfanrwydd ond y dylid cynnwys y cynnig i haneru’r gyllideb grantiau strategol i’r celfyddydau er mwyn arbed £84,850.

“Fel Cyngor rydym yn llwyr ymwybodol o bryder unigolion a sefydliadau sy’n gweithio yn y maes o’r effaith posib ar y sector, ac yn dilyn cais gan grwp Sgrech Gwynedd bydd cynrychiolwyr o’r Cyngor yn eu cyfarfod mor fuan â phosib.”