Y tonnau ger promenad Aberystwyth
Yn dilyn storm Imogen a darodd Gymru ddoe, fe fu’n rhaid i tua 300 o fyfyrwyr sy’n aros mewn llety ar bromenâd Aberystwyth gael eu hail-leoli i gampws Penglais dros nos.

Mae 10 rhybudd coch am lifogydd, a 24 rhybudd oren i fod yn barod am lifogydd yn parhau yng Nghymru’r bore yma.

Mae teithwyr ar Drenau Arriva Cymru yn cael eu hannog i wirio trefniadau eu taith cyn teithio heddiw.

Er bod cwmni Western Power wedi cadarnhau eu bod wedi adfer trydan yn y rhan fwyaf o ardaloedd a gollodd eu cyflenwad ddoe – mae 84 o gartrefi yn Rhondda Cynon Taf yn parhau heb drydan.

Gwyntoedd cryfion ddoe

Gwelwyd tywydd stormus yng nghymunedau arfordirol a de Cymru yn bennaf ddoe. Cofnodwyd gwyntoedd o 83mya ym Mhen-bre, sir Gaerfyrddin.

Effeithiwyd  ar drafnidiaeth yn ystod y dydd, gyda rhan o’r M4 ynghau am gyfnod wedi i lori droi drosodd.

Caewyd canol tref Pen-y-bont ar Ogwr gan yr heddlu ddydd Llun, oherwydd pryderon am ddiogelwch y cyhoedd wrth i deils chwythu o’r toeon.