Paul Flynn AS
Mae Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd wedi beirniadu’r penderfyniad o wrthod rhoi cais cynllunio i adeiladu ysgol Gymraeg yn y ddinas.

Ac mewn cyfweliad gyda golwg360 mae Paul Flynn yn dweud ei fod yn credu mai “penderfyniad emosiynol” oedd gwrthod y cais, ac nad oedd aelodau o Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor wedi “deall y dystiolaeth yn iawn”.

Dydd Mercher diwethaf, fe wnaeth y pwyllgor wrthod y cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf y ddinas, ynghyd ag ysgol arall ar safle’r ysgol bresennol, Ysgol Uwchradd Dyffryn, am fod pryderon o lifogydd wedi’u codi.

Er hyn, dywedodd Paul Flynn fod caniatâd wedi’i roi i adeiladu eraill, gan gynnwys cartrefi, mewn ardaloedd tebyg yn y ddinas.

“Angen ail-asesu” cynlluniau datblygu ar orlifdiroedd

“Os yw ysgol sydd â phrosesau gwagio mewnol a mesurau gwrth llifogydd yn cael ei dyfarnu’n anniogel, mae peryglon mwy difrifol i filoedd o adeiladau sy’n bodoli a datblygiadau newydd sydd ar y gweill,” meddai ar ei flog.

Ychwanegodd wrth golwg360 fod angen ail-asesu mesurau gorlifdiroedd a chynlluniau datblygu presennol, yn enwedig ar ôl storm Desmond, a effeithiodd ar gymunedau yng ngogledd orllewin Lloegr.

“Rhaid ail-ystyried y systemau rhybuddio dros lifogydd yn y dyfodol hefyd,” meddai, “Os ydyn nhw’n annigonol i safle Dyffryn, mae peryglon mwy difrifol i’r rhan fwyaf o orlifdiroedd.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn fygythiad difrifol iawn i ddatblygiad Casnewydd at y dyfodol, lles a thawelwch meddwl ei dinasyddion a phrisiau yswiriant.”