Mae mwy na 3,500 o gartrefi ledled Cymru heb gyflenwad trydan erbyn hyn, o ganlyniad i wyntoedd cryfion.

Yn ôl datganiad gan gwmni Western Power, mae tua 1,080 o dai heb gyflenwad yn Sir Gaerfyrddin; 1,100 yng Nghastell-nedd Port Talbot; bron i 600 yn Abertawe; a dros 300 yn sir Rhondda Cynon Taf.

Mae cannoedd o gartrefi eraill, meddai Western Power, wedi colli eu cyflenwad yn siroedd Bro Morgannwg, Caerdydd, Ceredigion, Sir Fynwy a Phen-y-bont ar Ogwr.